Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiried

ymddiried

Trwy ymddiried yn sofraniaeth ei reswm gallai dyn ddarganfod rhyddid yn ei feistrolaeth tros bwerau Natur.

Wrth gwrs fy mod in cydymdeimlo ar pedair mil o blant syn dioddef ond mewn oes pan ydym yn ymddiried cymaint o bethau i gyfrifiaduron y mae rhywbeth yn llesol mewn gweld nad yw y rheini mor anffaeledig ag y mae rhai ou gweision yn tybio.

Y ffordd ymarferol i'r Cynulliad gefnogi'r iaith yw datgan ei hawl foesol i ddeddfu ar fater y Gymraeg yn hytrach nac ymddiried y mater i San Steffan.

dydych chi ddim yn ymddiried ynof fi.

Yn bersonol, mi fyddwn in hapusach cael yr aelodau o ansawdd yn gyntaf ac wedyn ymddiried mwy o rym iddyn nhw.

Ymddiried y cwbl i'r stiwardaid.

Penderfynodd aelodau'r rhanbarth eu bod yn ymddiried yn y swyddogion i weithredu pe deuai cais o'r fath eto, heb gyfle i roi'r mater gerbron y rhanbarth.

Ychydig iawn o amynedd oedd gan awdurdodau'r ysbyty â'r math hwn o ynfydrwydd, ac yn hytrach nag ymddiried ynddynt hwy penderfynodd ef geisio cael y cyffuriau angenrheidiol yn ddirgel, a thrin yr aflwydd ei hun.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Cymdeithas sy'n ymddiried yng nghynneddf y rheswm yw'r gymdeithas gomiwnyddol, ac fel y proffwydodd Goya ddwy ganrif yn ol 'mae'r rheswm yn esgor ar anghenfilod unwaith ei fod e'n dechrau breuddwydio.'

Arweinydd sy'n ymddiried mewn amynedd, cynllunio a phwyll yw Manawydan hefyd.

Dyma frawddeg gyntaf Enid Baines 'Roedd ymddiried y dasg o sgrifennu hanes bywyd Arthur Rowlands i mi fel gofyn i un na lwyddodd i wau jersi blaen fynd ati i wau un fair-isle.

Roedden ni'n gorfod arwyddo llyfr ac yna camu'n ôl ac wrth wneud hynny peth naturiol oedd troi rownd ond, wrth ichi droi rownd, roedd yna ddau neu dri o aelodau o'r militia yn eich wynebu chi ac mi oedd gynnon nhw Kalashnikovs a phetaen nhw ddim yn leicio'ch wyneb chi neu ddim yn ymddiried ynoch chi, mi fyddai'n hawdd iawn iddyn nhw eich lladd chi.

"Doedden nhw ddim yn barod i ddatgelu'r cyfan o'u tystiolaeth a chawson nhw ddim o'u gorfodi i wneud hynny," meddai Michael Fisher, "Roedd thaid i'r rheithgor ymddiried ynddyn nhw - mae hynny'n rhoi grym anferth iddyn nhw, llawer gormod o rym."

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Mae am i ni droedio 'mlaen yn hyderus, gan ymddiried ynddo Ef.

Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?

Ond gwell synio amdani fel y detholiad hwnnw ohonynt yr oedd yr esgob yn eu harddel fel perthnasau a chyfeillion y gallai ymddiried ynddynt.

Gan nad oes modd ymddiried yn llwyr mewn rhagolygiaeth economaidd, y mae temtasiwn naturiol i unrhyw lywodraeth ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, fel cynnydd yn y gyfradd diweithdra.

Ninnau, wedi ein rhyddhau oddi wrth bryderon, gyda thangnefedd yn ein calonnau, yn ymddiried yn Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Paid byth ag ymddiried yn neb .

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Un awgrym arall, os oes rhaid darlledur pethau hyn o gwbl beth am ymddiried y cyfrifoldeb i Channel 5 eu trin yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Ymddiried yn y Cynulliad i ateb pob problem neu fynd ati ein hunain i neud rhywbeth.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch').