Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiriedaeth

ymddiriedaeth

Dywedir iddi fagu hunan-ymddiriedaeth yn y Cymry.

Ar y cyfan cânt eu portreadu yn ddynion gyda grym ewyllys cryf, yn benderfynol, yn ddewr, yn llawn o hunan ymddiriedaeth a hunan-gadwedigaeth.

Awgrymodd na ellid gosod dim ymddiriedaeth ynddynt fel pobl, ac nad oedd fawr o obaith iddynt feithrin gogwyddiadau gwareiddiedig.

Mae hefyd yn ffaith galonogol fod y prosiect wedi derbyn nawdd amrywiaeth o gyrff cyhoeddus gan gynnwys HTV a Gwasg Rhydychen, eto yn arwydd pellach o'r ymddiriedaeth yng nghwerth a llwyddiant y gyfres hon.

Ond roedd rhaid imi geisio ennill eich ymddiriedaeth yn araf deg, achos roeddwn i'n amau eich bod yn gwybod rhywbeth." "Sut hynny?" gofynnodd Marged.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ac Arweinydd y Cyngor i ymddiswyddo, gan eu bod wedi colli ymddiriedaeth a hyder y byd addysg yng Nghymru, ac wedi dwyn anfri ar enw Sir Gaerfyrddin fel bod pobl yn amharod iawn i weithio yn y sir.

Mae'r cyfryngau'n hael wrth y bobl hynny, a'r ymddiriedaeth yn un a berchir.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Dyma'r arwydd cyntaf fod y brawd ieuengaf yn gwrthod dilyn y llwybr a gymerwyd eisoes gan Henry Rees, a ennillasai ymddiriedaeth John Elias fel cynrychiolydd yr hen gyfundrefn ymhlith y Methodistiaid.

A chrwt bach du da f_m i wedyn am hir, diolch i ymddiriedaeth Mr Bevan yno' i - nes i'r coleg ddiawl 'na ddifetha popeth...

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Oherwydd agwedd newyddiadurwyr Cymraeg agwedd wahanol i'r un yr oedden nhw wedi arfer â hi, efallai roedd ymddiriedaeth yn tyfu.