Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiriedolaeth

ymddiriedolaeth

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hawliau Lles yr Anabl hanes hir o weithgaredd arbnigol ym maes anabledd.

Gwnaed cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru â pherchennog presennol y fferm, er mwyn cynnal y caeau yn warchodfa natur.

Cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Natur neu'r Feithrinfa leol am fwy o wybodaeth.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Mae'n rhaid fod Mrs Thatcher yn ymwybodol o hyn pan gyflwynodd hi fedalau i enillwyr Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill pan oedd hi'n Brifweinidog.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Y rhain oedd yr Uned Defnyddwyr a'r Cynllun Gofalwyr a dderbyniodd gyllid hefyd trwy Ymddiriedolaeth y PRINCES ROYAL i Ofalwyr.

Erbyn hyn, gweinyddir yr Ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, a sefydlwyd yn 1979 i warchod y naws unigol, ac i sicrhau y bydd yr Ynys a'i thrysorau ar gael i bobl fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Mae pryder gan nifer o gwnmiau am safonau y cnau pys (peanuts) a fewnforir ar gyfer bwyd i adar gwyllt, wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas Safonau Bwyd Adar (y BSA), sy'n derbyn cefnogaeth a chyngor gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Ymddiriedolaeth Adareg Bryneinig.

Yn ystod y flwyddyn bydd Angela Roberts yn gweithio gyda 28 practis doctoriaid yng Ngwynedd ac yn meithrin cysylltiad agos efo Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gofal.

Ond ar ôl pwysau oddiwrth y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans newydd wedi cadarnhau yr wythnos yma bydd yr arian i wneud y gwaith ar gael.