Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddwyn

ymddwyn

Nid yw'r Methodistiaid i "gablu urddas" ond i ymddwyn, mewn gair a gweithred, yn ffyddlon ddiffuant i'r llywodraeth gan anrhydeddu'r Brenin a'r sawl sydd mewn awdurdod oddi tano.

Gwneir i'r cymeriadau ymddwyn a siarad fel petaent yn perthyn i ddosbarth breiniol.

Syniad Merêd oedd yr ail fis mêl ac roedd Dilys yn ymddwyn fel pe bai wedi penderfynu diodde'r peth er ei fwyn ef.

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

Pan mae rhywun ifanc yn cael profiad o ymddwyn yn ddrwg, ac yn dda maent yn dysgu delio efo'r ddau gyflwr.

Heb fanylu gormod, 'roedd wedi ymddwyn mewn ffordd anwadal iawn tuag at yr Aifft, a'r gwledydd hynny a oedd â diddordeb arbennig ganddynt yng Nghamlas Suez, yn ystod y pedwar mis cyn yr argyfwng.

LIWSI: (Tra'n symud) Hynny ydi, down i ddim yn disgwyl iddyn nhw ymddwyn yn union fel gwnaethon nhw nawr.

Roedd Heledd yn un o'r bobl mwyaf aeddfed y gwn i amdanyn nhw - rhy aeddfed, efallai, i allu amgyffred na fyddai pawb yn ymddwyn gyda'r un aeddfedrwydd a hi.

Ar y llaw arall, gallai fod wedi codi o du'r arweinyddiaeth annibynnol sy'n ymddwyn fel petaent wedi cael eu swyno gan Brad Roynon.

Nid yw'n dilyn y buasai'r deallusion Cymraeg a edmygai'r beirdd a'r llenorion hynny yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel wedi ymddwyn yn yr un modd mewn amgylchiadau cyffelyb.

Mae'r rhannu hwn yn ddefnyddiol gan ei fod yn darparu patrymau ymddwyn yn ogystal a sylweddoliad y gellir chwalu rhwystrau mewn cymdeithas (a bod hynny wedi digwydd) gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu hunain.

Ond mae'n rhaid fod rhywun wedi dysgu'r dynion ifanc hyn i ymddwyn fel ag y gwnânt.

Rhaid i ti gyfaddef iddi geisio ein brifo ni ym mhob ffordd bosib: ninnau'n ceisio bod yn garedig wrthi, yn ei gwahodd hi yma, yn mynd a hi allan am fwyd, yn ceisio ymddwyn yn war ymhob ffordd, a dangos fod modd i dderbyn y pethau hyn ond ymddwyn yn synhwyrol.

Bellach rhaid fyddai ymddwyn yn iawn, neu gael fy ngyrru i fyw at y plant drwg eraill i'r adeilad mawr, annymunol, a'r muriau uchel yn ei amgylchynnu.

Eto i gyd, mae'r dorf yn dal i ymddwyn fel pe na bai Gadaffi yno.

Doedd JR ddim yn siŵr iawn pa fodd i ymddwyn mewn sefyllfa o'r fath, oherwydd ni cherddodd y ffordd hon o'r blaen.

Doedd y ffaith fod pobl yn mynychu capel ac yn gwisgo'n barchus ac yn siarad yn neis ddim yn meddwl nad oedden nhw ddim yn medru ymddwyn yr un mor sglyfaethus â'r pethau meddwon rheiny fyddai'n taflyd if yny hyd bob man ar eu ffordd adref o barti.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).

Ond, gyda'r ifanc yn ymddwyn fel yr hŷn, does dim gobaith; bydd rhagfarn a rhagrith yn dal i deyrnasu, a hynny'n oes oesoedd.

Wrth i Carol ysbarduno'r car bach yn ddidrugaredd tua'r gogledd, gallai glywed eu lleisiau'n parablu'n gynhyrfus am yr holl bethau a welent drwy'r ffenestri, a gwyddai mai felly'r oedd hi wedi disgwyl i bethau fod.Gallai ei chysuro'i hun nad ymddwyn yn fyrbwyll a wnaethai, ond paratoi cynllun brysiog yn ei phen a gweithredu arno'n syth.

Roedd yr hen adroddiadau am ddynion a oedd yn ymddwyn fel bleiddiaid yn wir.

Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.

Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT.

"Dewch nawr, Sera," meddai a'i lais yn datgan mor ddiamyd yr oedd, ond â thinc o ddigrifwch ynghudd ynddo hefyd, "Ddaw dim daioni o ymddwyn fel yna."

Rhybuddiodd Cradoc y Senedd ei hun i beidio ag ymddwyn felly.

Yn enwedig ac yntau'n ymddwyn fel petai yn fy herio i i fynd a'i adael o ar ei ben ei hun yn y fflat yma ar y fath dywydd.

Ar ôl i Bobol y Cwm orffen ac i Dad fynd allan am beint roedd Modryb wedi rhoi pregeth i Mam ar sut y dylai plant ymddwyn wrth y bwrdd bwyd.

Ac yn ôl y ffordd y buoch chi'n ymddwyn, rydw i'n siŵr mai'r trefniant hwn sy orau gennych chi." Gwelodd ei gorff yn tynhau.

Digon dealladwy oedd rhesymau'r archesgob dros ymddwyn fel y gwnaeth.

Mi fyddai yna dipyn o le pe byddai disgyblion yn ymddwyn felly - ond dyna a wnaeth athrawon yr NUT pan ddaeth y Gweinidog Ysgolion, Estelle Morris, i siarad a nhw.

Yng nhgwrs yr achos hwnnw bu raid i Forgan gyfaddef ei fod yn mynd o gwmpas gyda dagr neu bistol dan ei gasog rhag ofn i Evan Meredith a'i bliad ymosod arno, a'i fod hefyd unwaith wedi rhoi a 'little flick or pat upon the chin or cheek' i'w fam-yng-nghyfraith pan oedd hi'n annog ei weision i ymosod ar rai Evan Meredith; ond fe wadodd yn bendant holl gyhuddiadau mwy sylweddol Meredith, a'm barn i am eu gwerth yw ei fod wedi ymddwyn trwy'r holl helynt gyda chryn ymatal a graslonrwydd, er ei bod yn gwbl amlwg hefyd fod elfen gref o ystyfnigrwydd yn perthyn iddo.

Haerai, hefyd, nad oedd y mab, erbyn meddwl, yn ddigon drwg i fod wedi cyflawni hunanladdiad, er ei fod yn ymddwyn yn od iawn ar adegau ac yn gweiddi fod llau yn torri allan drwy'i gnawd a bod rhywbeth o'i le ar ei ben.

A'r drasiedi fawr yn hyn i gyd yw nad yr hen bobl yn unig sydd yn ymddwyn fel hyn - mae'r ddau ifanc hefyd yn ymagweddu yn yr un modd, tuag at Daz a thuag at Llwyddan.

Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.