Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymerodraeth

ymerodraeth

A'r planhigfeydd llydain oddi yma i lawr hyd at yr Atlantic a Chulfor Mexico, ac i'r gorllewin hyd yr Afon Fawr - y Mississippi - ac ymlaen wedi hyny hyd at dueddau Ymerodraeth Mexico - maent y dyddiau hyn yn cael eu torri i fyny a'u rhannu - eu rhannu rhwng y niggers a'r Yankees, ac unrhyw genedl o unrhyw wlad a ddelo ymlaen i'w cymryd, am lai na hanner eu gwerth.

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Yn ystod y cyfnod hwn ymestynnai ymerodraeth Angkor o ororau Môr Tsieina yn y dwyrain hyd at Fôr yr India yn y gorllewin.

Angkor oedd yr ymerodraeth a ddaeth i fri ar ddechrau'r nawfed ganrif pan deyrnasai Jayavarnam yr ail a addolid fel duw tra'r oedd eto'n fyw.

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Ond datgymalwyd yr hen ymerodraeth ac etholwyd Masaryk yn Arlywydd gwladwriaeth newydd

Yr hyn nad oeddwn wedi'i sylweddoli oedd ein bod y tu allan i ffiniau'r hen Ymerodraeth Brydeinig erbyn hyn - ble bynnag y bu honno, mi allasech fentro bod 'na lawer o stomp ar ei hôl hi, fawr iawn o drefn ar ffyrdd, ysgolion ac ysbytai ac ati - ond roeddach chi'n saff dduwcs o gael un peth safonol, sef stadiwm fawr urddasol o amgylch cae criced.

'Roedd yno radio,flynyddoedd cyn i ni gael un yn Nhy Capel, fy nghartref erbyn hynny, ac uchafbwynt y pnawn fyddai'r darllediad a ddechreuai tua dau o'r gloch - Llundain yn galw pellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Yn nyddiau'r Ymerodraeth Brydeinig gallai Cymro a oedd a digon o fynd ynddo gychwyn bywyd newydd ymhle bynnag yr oedd y faner Brydeinig yn cyhwfan, nid fel ffoadur nac fel ymfudwr, ond fel dinesydd o'r iawn ryw.

A ellir dychmygu Crist, a wisgodd y teitl gwleidyddol 'Brenin yr Iddewon', yn ymagweddu fel hyn tuag at yr Ymerodraeth Rufeinig?

Dod ymlaen yn y byd oedd eu cymhelliad cryfaf: pawb drosto'i hun a'r Ymerodraeth Brydeinig dros bawb oedd piau hi.

Eu braint a'u dyletswydd gyntaf oedd gwasanaethu ac amddiffyn y wladwriaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.

Llifodd ei chyfoeth i gynnal Llundain a'r Ymerodraeth.

Gweithiodd Masaryk i chwalu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngaraidd, a oedd yn cynnwys ei genedl ef, cenedl y Tsieciaid, a ffurfiodd fyddin o'r carcharorion Tsiecaidd a oedd wedi eu cymryd i gaethiwed gan y Rwsiaid.

'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym.

Ar ôl yr undeb rhwng Lloegr a'r Alban y datblygodd y syniad Prydeinig y rhoddodd yr Ymerodraeth fri mawr arno.

'Ni bu neb chwerwach na mi yn y gorffennol,' ebe Gruffydd, 'yn condemnio rhai agweddau ar bolisi'r Ymerodraeth Brydeinig, ac ni ddymunwn dynnu sillaf yn ôl o'r hyn a ddywedais.

Hanner canrif ynghynt, roedd Evelyn Waugh wedi sgrifennu nofel gyfan, Scoop, yn rhoi pin yn swigen gohebyddion hunandybus yr Ymerodraeth Brydeinig.

Cynnal Gemau'r Gymanwlad, neu Gemau'r Ymerodraeth fel y'i gelwid ar y pryd, yng Nghymru.

Pan oedd y Gristnogaeth yn ymledu yn ninasoedd yr Ymerodraeth ni fynnai'r arweinwyr roi amlygrwydd i'r gweddau ar waith Iesu a fwriai her i ddrygau'r wladwriaeth.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.

Roedd i'r gyfundrefn Sofietaidd rhyw lun o sadrwydd ac roedd yr hanfodion ar gael i hwyluso hedfan a theithio ledled yr ymerodraeth.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch').