Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymfalchio

ymfalchio

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Gallwn ymfalchïo fod gennym drtaddodiad llenyddol a barddol cystal ag unrhyw un o wledydd Ewrop.

Ac mae'r ddadl ynghylch dyfodol y baedd gwyllt yn Sweden yn dal i fod yn un ffyrnig hyd heddiw - y ffermwyr yn sicr o ddifetha'r anifail yn llwyr o'r wlad, ond y naturiaethwyr yn ymfalchio yn y ffaith bod anifail newydd wedi dod i fyw i'r wlad a hyn oll yn rhoi cyfle bendigedig iddyn nhw astudio anifail a oedd ychydig yn ol yn ddim ond ffaith diddorol mewn llyfr hanes.

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlur Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Cynnyrch llai adnabyddus Cymru a welir ymhlith y cystadlaethau ffowls yn Llanelwedd yw'r ŵydd Brecon Buff a'r hwyaden fach sy'n ymfalchio yn yr enw Welsh Harlequin.

Dywedir bod gyrrwr yr Irish Mail yn troi'r ager ymaith dair milltir cyn cyrraedd Caergybi, a gallem feddwl am rywun o fewn y tair milltir hynny, wrth ei weld yn mynd heibio'n urddasol, yn ddi-ager a di-stwr, yn ymfalchio ynddo o'i gymharu â'r trenau bach a byffia heibio, heb wybod mai sefyll o anghenraid fydd ei hanes cyn bo hir, mai yn~ n~m y ~allu a drowyd ymaith yr â hyd yn oed

Mae'n rhaid i'r iaith ddod â phobl at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu; dylai hi gael ei hystyried fel rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i defnyddio, nid fel niwsans neu fygythiad.

Mae Newyddion yn ymfalchïo yn y ffaith y gall ddod â'r holl ddigwyddiadau allweddol i'r gwyliwr Cymraeg ei iaith.

Rydym yn ymfalchio yn y ffaith ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â BBC Cymru a chredwn mai dim ond drwy gydweithio y bydd BBC Adnoddau, Cymru yn parhau i fod yn fusnes adnoddau cyfryngol llwyddiannus a blaengar.

Os oeddynt yn ymfalchio yn eu cenedl a'u gwreiddiau gwerinol, meddai, yr oeddynt yn siarad Hwngarian, ond yr oedd y rhai oedd eisiau statws a bri yn y gymdeithas yn dewis siarad Almaeneg.

Mae enw da y coleg am gynhyrchu sêr chwaraeon yn un y byddai unrhyw goleg ym Mhrydain ymfalchio ynddo.

Mae'r siopau hyn yn rhai y mae'r Canadiaid eu hunain yn ymfalchio ynddynt a'r ddau gwmni yn rhai o'r wlad ei hun yn gwrthsefyll cyrch siopau tebyg o'r Unol Daleithiau dros y ffin.

Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.

Mi fyddai'r lle'n orlawn, nid yn unig o'r ffyddlon, ond hefyd o'r rhai eraill, dim ond i ymfalchio fod yr hen ŵr wedi bod yn eu mysg.

Roedd y newyddion hyn yn destun llawe- nydd iawn i naturiaethwyr Sweden oedd yn ymfalchio fod yr anifail yma bellach yn ddiogel y tu fewn i ffiniau eu gwlad - anifial a gafodd ei hela mor ffyrnig gan eu brenhinoedd ac uchelwyr y wlad ganrifoedd lawer yn ol.