Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymffrost

ymffrost

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Anodd dweud o edrych arno beth sydd gan y dyn i'w gynnig ond dywedwyd ar y radio mai ymffrost fawr Paul Daniels yw iddo gysgu gyda 300 o ferched.

Canent awdlau serch lled faith i dywysogesau a rhai byrrach i ferched anhysbys (ac anghyffwrdd), heblaw dwy 'orhoffedd' sy'n gyfuniad diddorol o ymffrost serch a rhyfel ac o ganu natur.

Testun ymffrost cyson gan y dyneiddwyr oedd hynafolrwydd y Gymraeg.

Yn ail ddegau'r ganrif hon ymffrost ardal uchel Pentrellyncymer oedd fod ganddi gymaint â dwsin o feirdd a fedrai lunio englyn cywir yn gwbl ddifyfyr...