Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymffurfio

ymffurfio

Byddai'n groes i'w hanian hwy ymffurfio'n glwb a chyhoeddi'u cylchgrawn eu hunain.

Fel dyn gyda thorts egwan yn chwilio am gath ddu yn y nos, doedd dim ond un peth yn bosib' - dechrau wrth y traed, sylwi a chrynhoi argraffiadau, gan obeithio y byddai'r rheiny, fel kaleidoscope bach, yn ymffurfio'n batrwm o fath.

Nid syniad newydd yw fod y weinidogaeth Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf wedi ymffurfio'n ddosbarth o arweinwyr cymdeithasol: rhyw aristocratiaeth newydd yr oedd y werin yn tynnu'i chap iddi.

Am y tro cyntaf gellid gweld corff o weithiau yn ymffurfio.

Brigyn banadl wedi plygu'i war i'r gwynt gan ymffurfio'n fwa addas.

Gyda methiant y canol i greu consensws o fewn gwlad sy'n prysur ymffurfio'n rhanbarthau economaidd a diwylliannol, nid yw'n destun syndod y bydd y pleidiau rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn y senedd newydd.

Cyfnod o ymffurfio ydoedd i Elfed, ac o ddilyn ei hanes yn ystod y blynyddoedd hyn gwelwn sefydlu patrwm, patrwm arwyddocaol iawn o ystyried ei lwybr i'r dyfodol.

Mae delwedd o'r hyn a welwch yn ymffurfio ar y sgrin fechan hon.

Y tu ôl i'r ffigur erchyll yma, roedd byddin yn ymffurfio.