Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymfudo

ymfudo

Fe glywsoch fod y Cynghorydd Huw Pyrs yn ymfudo i'r America?" "Do." "Wnaeth o ddim byd erioed i haeddu bod ar Gyngor y Dref.

Erbyn y chwedegau roedd mwy a mwy o 'Oruchwylwyr Trwyddedig Ymfudiaeth' yn hysbysebu eu gwasanaethau amrywiol yn rheolaidd yn y wasg, a'r Herald Cymraeg, er enghraifft, yn cynnwys asiantaethau a oedd yn canolbwyntio ar ddenu Cymru oedd a'u bryd ar ymfudo.

"Chlywsoch chi ddim fod Huw Prys y bwtsiwr yn ymfudo i'r America i fyw gyda'i fab yn Philadelphia?" "Do, ond..." "Dyna ydi o, yn siŵr i chi."

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Ond tua ddechrau Medi y gwelir ymfudo mawr y gwenoliaid a'u tebyg, a'r adar man fel dryw'r helyg a'r gwybedog.

Yr oedd ymfudo o Gymru i Awstralia ar raddfa lawer llai na'r un i America, ond yma eto gwnaed ymdrechion i ddarparu cyhoeddiadau cyfnodol ar gyfer yr ymfudwyr yn eu hiaith eu hunain.

Enillodd Taro Naw y wobr am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd gydag adroddiad teimladwy ar deulu o fferm fynydd Gymreig a orfodwyd i ymfudo i Ganada oherwydd yr argyfwng amaethyddol yng Nghymru.