Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgeiswyr

ymgeiswyr

Ond y mae'r twyll hwn yn resynus iawn, yn enwedig o gofio fod yr ymgeiswyr eraill ar gyfer yr enwebiad Democrataidd i gyd wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'u hiechyd.

Newid ymgeiswyr efallai?

Yr wyf innau'n cytuno fod yn iawn i'r blaid gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau seneddol; ond ar amodau.

Yr oedd rhai ohonynt yn bur fychan - o safbwynt nifer yr ymgeiswyr a oedd yn sefyll eu harholiadau iaith - ac eraill yn gallu cystadlu â'r byrddau arholi TAU.

Rhaid teimlo dros yr ymgeiswyr yn yr etholiad hwn.

Ar y dechrau penderfynwyd peidio ag anfon ymgeiswyr y Blaid i Senedd Lloegr ped etholid hwy.

Ar ôl ystyried yr ymateb i hysbyseb yn y wasg gofynnodd y pwyllgor penodi i Harri Gwyrln a fuasai'n barod i adael iddynt ychwanegu ei enw at y rhestr o ymgeiswyr am y swydd.

Galwodd John Morris-Jones ef 'Y meistr mwyaf ar y gynghanedd o'r ymgeiswyr oll'.

Cloriannwyd yr ymgeiswyr nid fel unigolion ond fel timau a rhaid oedd wrth gydbwysedd a chydweithio os am ddod i'r brig.

(iii)Mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor, i benderfynu ar geisiadau am drwyddedau gyrwyr cerbydau hacni, ar wahân i unrhyw geisiadau y teimla y dylid eu cyflwyno i'r Is-bwyllgor, gan gynnwys ceisiadau lle bo gan ymgeiswyr droseddau modurol cyfredol.

Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd.

Mae buddugoliaeth yn Florida'n allweddol i ymgeiswyr y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr fel ei gilydd.

Os oedd gormod o flaenwyr a dim digon o gefnwyr, ymgeiswyr yn chwarae fel cefnwyr fyddai'n cael blaenoriaeth.

Etholiad gwael i'r Rhyddfrydwyr: o'r 475 o ymgeiswyr etholwyd 9 yn unig a 5 o'r rhain yng Nghymru.

Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth.

Mae'r cwrs hyfforddi'n denu cannoedd o ymgeiswyr, roedd Eryl Ellis yn un o naw a ddewiswyd allan o dri chant y flwyddyn honno.' MAE 'NA DEBOT I FOD'

Un o'r achosion diweddaraf o hyn oedd dyfarniad bwriadol, haerllug y Tribiwnlys Diwydiannol drwgenwog hwnnw ym mae Colwyn rhyw flwyddyn yn ôl, nad oedd gan Gyngor Sir Gwynedd yr hawl i fynnu bod gan ymgeiswyr am rai swyddi wybodaeth o'r Gymraeg.

Yn awr, wele'r Awdurdod Iechyd yn gwahodd ymgeiswyr am swyddi holl-bwysig ac allweddol Prif Weithredwr yr Awdurdod, a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans dros siroedd Gwynedd a Chlwyd.

A chyda naw o ymgeiswyr eraill fe'm derbyniwyd i'r coleg hwnnw i baratoi at y Weinidogaeth.

Y naill oedd y lleihad mewn ymgeiswyr am y Weinidogaeth a'r llall oedd prinder arian.

Mae gennyn ni'r grwp gorau a mwyaf gweithgar o ymgeiswyr ac rydyn ni wedi dewis ymgeiswyr ar gyfer bron bob un o seddi San Steffan.

Yr oedd yr etholiad hwnnw yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymreig, ac ni bu etholiad wedyn heb ymgeisydd neu ymgeiswyr Plaid Cymru ar y maes.

Yn fras felly, gan mai ef sy'n drydydd ar restr ymgeiswyr ei blaid, rhaid i Lafur enill rhyw drigain y cant o'r bleidlais iddo fod yn sicr o gadw'u sedd.

Ar ôl imi basio arholiad y Bwrdd Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, 'roeddwn i'n meddwl bod fy holl ofidiau ar ben, oherwydd tasg go fawr oedd arholiad y Bwrdd.

Roedd holl ymgeiswyr Llafur yn y Pencadlys ym Millbank i lansio'r ymgrych ond chafodd yr un ohonyn nhw ddweud gair o'r llwyfan.