Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgeisydd

ymgeisydd

Ond yn gyffredinol, profodd chwaraewr fel Scott Gibbs ei fod yn ymgeisydd chwyrn a theg a dylsai gael ei farnu ar y dystiolaeth honno.

Mae'r Gymdeithas a pholisi hefyd o ofyn i bob ymgeisydd sy'n siarad Cymraeg i ymrwymo i siarad Cymraeg yn y Cynulliad.

Tywyn Mehefin 2 Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Meirionnydd; John Lloyd Jones, Cadeirydd Cymdeithas Cefn Gwlad; Graham Worley, cyn-ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

'Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd am y weinidogaeth fynd i bregethu ar brawf i rai o eglwysi'r Henaduriaeth.

Tynnodd cyfaill fy sylw at lun yn y Rhondda Leader o ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur y Rhondda gydag asyn.

Mae'r pleidleisiau o dramor bellach wedi'u cyfri ac wedi rhoi ymgeisydd y Gweriniaethwyr George W Bush ar y blaen o 930 o bleidleisiau.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Cais llawn - dihangfa dân Rheswm: Gohiriwyd y cais hyd nes y derbynnid cais adeilad rhestredig gan yr ymgeisydd.

Yn gyntaf bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dderbyn caniatâd cynllunio dros y datblygiad ac wedyn bydd yn gwneud cais am drwydded.

Fe allech chi gredu bod y Prif Weinidog yn ymgeisydd! Dim ond ynfytyn fyddai'n amau ased mor gref yw'r Prif Weinidog i'w blaid.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Wel, roeddwn i'n ymgeisydd am Urddau yn Esgobaeth Llanelwy gan fod diffyg Cymraeg, yr adeg honno roedd Esgobaeth Bangor yn drylwyr Gymraeg.

Yr ail beth oedd ymateb yr ymgeisydd i bêl rygbi a gâi ei thaflu ato fel y cerddai i mewn drwy'r drws i'r cyfweliad.

Cais llawn - addasu ac ymestyn modurdy preifat yn sylweddol i greu fflat nain Rheswm: Gohiriwyd ar gais asiant yr ymgeisydd.

Ar hyn o bryd mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr George W Bush rhyw 300 o bleidleisiau ar y blaen o'i wrthwynebydd y Democrat Al Gore.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio i roddi hysbysiadau yn y Wasg o unrhyw gais a fydd, yn ei farn ef, o ddiddordeb arbennig i bentref, ardal neu'r Dosbarth (mae hyn yn ychnwanegol i unrhyw geisiadau y bydd yn rhaid eu hysbysebu'n unol â gofynion y Ddeddf - gan yr ymgeisydd neu'r Cyngor).

Mi basiais, er gwaethaf Madam Wen, a derbyniwyd fi'n ymgeisydd am y weinidogaeth.

Bara beunyddiol pob ymgeisydd am y weinidogaeth oedd sicrhau cyhoeddiadau ar y Suliau.

Yr oedd yr etholiad hwnnw yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymreig, ac ni bu etholiad wedyn heb ymgeisydd neu ymgeiswyr Plaid Cymru ar y maes.

Awgrymai'r adroddiad felly y dylid ehangu ffurflenni cais ar gyfer caniatâd cynllunio am dai mewn ardaloedd gwledig drwy ychwanegu rhestr o gwestiynau ychwanegol i'r ymgeisydd ynglŷn â dyluniad, lleoliad a.y.

Penderfynodd y ddau ymgeisydd ymddangos ar deledu'r wlad nos Fercher.

Pwy, wedyn, oedd yr ymgeisydd am uchel swydd yng ngwleidyddiaeth Prydain a newidiodd yn sydyn o gael pwl o iselder ysbryd i gyflwr o orfoledd annormal ac ynni annaturiol?

Mackintosh oedd yr ymgeisydd cryfa' ar restr fer o dri.

Clywais un ymgeisydd aflwyddiannus yn dweud, 'tynnais (codais) hanner fy ngardd i wneud y casgliad hwn, a chael y run o'r gwobreuon yn y diwedd'.

A dyna pryd y dysgais i fod het a gwasgod yn bethau hanfodol angenrheidiol i bob ymgeisydd am y weinidogaeth.

Byddent yn hytrach yn brofion y gellid eu sefyll unrhyw bryd pan fyddai'r ymgeisydd ei hun yn barod i wynebu'r sialens.

Fel darpar ymgeisydd y Blaid ym Meirion byddwn i yn mynychu'r Pwyllgor pan allwn.