Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymglywed

ymglywed

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Hwy, felly, a fydd yn ymglywed â gwir angen y genedl.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

Gellid meddwl mai tua'r un adeg y bu William Salesbury yn Rhydychen am gyfnod ac ymglywed â'r un dylanwadau hyn.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

Eithr, hyd y gellir barnu, nid oedd yn ymglywed ag unrhyw groesdynnu.

Os ydyw'n Gymro go iawn ac yn un sy'n ymglywed â naws a thraddodiadau ei wlad a'i genedl ei hun, fe ddaw'r awydd i ddysgu'r hen iaith er mwyn ailgydio yn ei enedigaeth-fraint.

Beirniada'n llym y gyfundrefn addysg sy'n peri diffyg ymglywed â gorffennol y genedl.