Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgolli

ymgolli

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Ym - o oes, mae'r iaith yn hwylus i'w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli'n llwyr ynddo.

Roedd y ddau wedi ymgolli gormod yn chwarae'r plant i gymryd yr un sylw o ddim arall o'u cwmpas.

Ar y dechrau ymgolli yn y digonedd a'r moethau a wnaeth y pedwar, gan feddwl meddiannu'r cyfan eu hunain.

Ni ddilyd gorbwysleisio'r gwahaniaethau rhwng y ddau ddehongliad hwn: golyga undeb â Christ ynuniaethu, mewn rhyw fodd, â'r dwyfol tra nad oes lle mewn theosis i'r syniad naill ai am berffeithrwydd dibechod neu am ymgolli digyfrwng yn y duwdod.

Roedd wedi ymgolli cymaint yn ei gynllun, fel na sylwodd eu bod yn nesu at y wernen.

Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.

Teimlwn mai'r peth gorau i mi oedd ymgolli mewn sgwrs, heb dalu gormod o sylw i'r lwyfan.

Cyfaddefant eu bod wedi ymgolli yn nhryblith ystyriaethau beunyddiol, bydol, yn llwyr, ac eto mynegant ddealltwriaeth o'r ffordd y mae'r elfen ysbrydol yn ein profiad yn ymdreiddio trwy bopeth.

Yn ddiweddarach fe drows Owa John yn llwyrymwrthodwr ac ymgolli mewn llenwi football pools, a gwae'r neb a fyddai'n siarad pan fyddai'r radio yn cyhoeddi canlyniadau'r meysydd pel-droed.

Roedd o wedi riportio'r mater i Telecom, rhag ofn ei bod hi wedi ymgolli gormod yn ei sgwennu i sylwi.

Dosbarth Tryfan: Y mae'r plant wedi llwyr ymgolli ym myd y Deinasoriaid ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar am ÜBarti'r Deinasoriaid'.

Roedd ubiadau'r ci fel pyllau ymdrochi cynnes iddo ymgolli ynddynt.

Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli'n lân rhwng cloriau llyfr da.

Mae ymgolli fel hyn yn golygu nad yw realiti yn bod iddyn nhw." Mae'r Parchedig Densil John yn gweithio ymhlith y digartref yng Nghaerdydd gyda Chapel y Tabernacl, Yr Ais, lle mae'n weinidog, yn paratoi paned o de a brechdanau ar gyfer rhai o bobl ddigartref y brifddinas bob Sul.

Llyfai'r hen ŵr ei wefusau wrth fy ngwylio, drosodd a throsodd, gan dynnu un wefus yn araf ar draws y llall, wedi ymgolli'n alarus, fel trefnwr angladdau yn "molchi% ei ddwylo yn sych.

Y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel oedd cyfnod ei greu mwyaf, blynyddoedd o newidiadau hanesyddol aruthrol pan drodd mwy nag un arlunydd ei gefn ar ganolfannau artistig ac ymgolli mewn tirlun arbennig.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.