Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgorfforiad

ymgorfforiad

Saif Mari Lewis yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd Calfinaidd, 'pur', fel y'u gwelid ganddo.

Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.

mae'n amlwg fod Bouchard gyda'i wallt du afreolus, ei aeliau dramatig a'i Ffrangeg delweddus wedi cymryd mantell Rene Levesque, fel ymgorfforiad o genedligrwydd Que/ bec.

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

Ffeithiau oedd dymuniad Mr Gradgrind, ymgorfforiad perffaith o awch oes Victoria amdanynt.

Ffrwyth trafodaethau rhwng y ddau, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau, a arweiniodd at sefydlu swydd oedd yn ymgorfforiad o ddyheadau'r ddau gorff.

Diau fod agwedd y bardd yn sylfaenol wrywaidd wrth weld ei fab yn ymgorfforiad ohono'i hun, ond gellir ymdeimlo â rhyw dynerwch benywaidd yma hefyd.