Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgymryd

ymgymryd

ohonynt fel hyfforddiant i ymladdwyr ac arweinyddion ifainc.' Rhaid oedd atgoffa Geraint o'i ddyletswyddau ac y mae rhywbeth chwithig fod tad oedrannus yr arwr yn gorfod ei gyrchu adref i ymgymryd â'i briod alwedigaeth.

Yn ogystal, roedd merched hollol anaddas yn ymgymryd â gwaith athrawes.

Gyda golwg ar sicrhau rheolaeth effeithiol ar y treuliau pasiwyd yn unfrydol nad oedd neb i ymgymryd ag unrhyw agwedd ar y gwaith ariannol heb ganiatâd y Pwyllgor Cyllid.

Ac y mae Gwasg Carreg Gwalch nid yn unig yn haeddu ei chanmol am ymgymryd a'r dasg enfawr hon ond hefyd am sicrhau fod y gwahanol gyfrolau yn cael eu cyhoeddi o fewn amser rhesymol i'w gilydd.

Effaith y temtiad oedd peri i Iesu ymgymryd yn hollol agored yng ngŵydd ei ddilynwyr ag anturiaeth y chwyldrowr di-drais.

Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.

Er gwaethaf ofnau Mari aeth yr wythnos rhagddi yn weddol ddihelynt a Robin, ar Iol ei ymateb byrbwyll cyntaf, wedi ymgymryd yn ddigon llawen - diddanu Llio fach a'r bechgyn bob gyda'r nos.

Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.

Gyda'r cyflogau mor isel, dim ond dynion a oedd yn analluog i ymgymryd â gwaith arall oherwydd henaint neu lesgedd oedd yn cael eu denu i fod yn athrawon.

derbyn adroddiad gan Marged Davies nad oedd unrhyw aelod o'r pwyllgor yn barod i ymgymryd a'r swyddi o fewn yr Is-bwyllgor Chwaraeon.

Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.

Gellid ymgymryd ag ymchwil dosbarth, treialu a gwerthuso deunydd/sefyllfaoedd penodol a.y.y.b.

Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.

Bydd Arshad Rasul yn ymuno â Thîm Rheoli S4C ac yn ymgymryd â'i gyfrifoldebau ar Awst 23ain.

Symons fod eu profiad blaenorol yn gwneud y mwyafrif o'r athrawesau yn anaddas i ymgymryd â'r gwaith o ddysgu plant.

O safbwynt datblygu addysg Gymraeg i ateb gofynion byd gwaith, byddai'n werthfawr ymgymryd ag ymchwil i'r defnydd a wneir ac y gellid ei wneud o'r Gymraeg mewn gwahanol swyddi yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Yn ogystal, coronwyd hyn oll gan waith Buddug Medi yn awr wrth ymgymryd ag atgyweirio Penrhiw.

Yr oedd Dŵr Cymru yn barod i ymgymryd â chynllun i wella'r sefyllfa yn amodol bod cysylltiad i'w wneud i bob un o'r tai.

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

Roedd hi wedi derbyn y byddai eisiau ei chymorth ar ei mam, gan ei bod hithau wedi gorfod ymgymryd at weinyddu ewyllys ei gwr.

Gwyddys bellach mai ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o'r Beibl a wnaeth yr Esgob Parry, a chael gan ei gyfaill ysgolheigaidd a galluog, person Mallwyd, wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

`Pan fydd y plant yn gorffen fan hyn, fe fyddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadol ac fe fyddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Ni fedrant ddeall person sy'n ymgymryd â'r fath waith undonog o'i wirfodd a methiant yw ymdrechion tila Lenz i egluro, am nad yw ef ei hun yn argyhoeddiedig o effeithiolrwydd y dacteg hon i greu rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng y myfyrwyr a'r gweithwyr.

Fe wnaeth - - y pwynt fod - - yn cynhyrchu Dim Tafod a Cenwyn yn Uwch Gynhyrchydd ar y gyfres Pirates, a oedd gan Gomisiynwyr yr amser i ymgymryd â'r gwaith?

ymgymryd â threfnu'r chwaraeon ac anogodd bawb i gefnogi'r pwyllgor y tymor nesaf.

Ni cheir digon o gyfle i siarad a gwrando a cheir diffyg amrywiaeth a her yn yr ysgrifennu y bydd y disgyblion yn ymgymryd ag ef.

Yr oedd gwir angen symud ymlaen a'r cynllun ac argymhellodd fod y Cyngor yn ymgymryd â'r gost o gysylltu'r holl dai a bod Cyfreithiwr y Cyngor yn edrych i mewn i gyfrifoldeb perchenogion y tai a werthwyd gan y Cyngor i gyfarfod â'r gost mewn perthynas i'w heiddo hwy.

Ychydig y mae pethau wedi newid yno ond mae Lenz yn synhwyro bod yno nawr fwy o gysylltiad personol rhwng y myfyrwyr ac y mae'n barod i ymgymryd â'r gwaith unwaith eto.

Dyna gyfnod 'Cwmni Opera Powell Edwards, cwmni a oedd yn barod i ymgymryd a chyflwyno operau megis 'Cavalleria Rusticanna', 'Faust', 'Bosun's Mate', a 'Pagliacci' gyda Frank Mullings yn un o'r unawdwyr.

Is-drysorydd Rhanbarth: Diolchwyd i Alwen Jones, Cangen Llandwrog am ymgymryd a'r swydd a chroesawyd hi i'r tim gan y Llywydd.

A barnu oddi wrth yr ohebiaeth, rhaid bod HR Jones wedi ymgymryd â llawer o'r gwaith golygyddol ei hun.

Yn ddelfrydol, wrth ymgymryd â'r broses o wneud cyllideb, dylem ystyried pob rhan o'r busnes.

Gofynnwyd am arian i'r Cyngor Ysgolion i ymgymryd â'r gwaith a sefydlwyd prosiect ymchwil bychan i weld a oedd yna newid agwedd tuag at ddysgu iaith dramor ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau nodau graddedig.

Cofiwch, prif nod gwaith allweddol yw galluogi defnyddwyr y gwasanaeth fel y gallant gael y cyfle i ymgymryd a thasgau gwaith allweddol.

Wedi gadael Berlin fe beidiodd i raddau helaeth ag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol ac felly nid oes ganddo syniad lle i droi am gymorth a chyngor pan mae'r angen yn codi.

Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.

Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.

Ar y sail yma bu H. W. Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.

Ac eto fe'n danfonwyd yno'n swyddogol i ymgymryd â gwaith arbennig.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.

Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.

'Pan fyddan nhw'n gorffen fan hyn,' atebodd Ismail, 'byddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadaol, a byddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.