Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgynnull

ymgynnull

Saxony - dau gant o Neo-Natsi%aid yn ymgynnull ar faes gwersylla, gan chwarae cerddoriaeth a thraddodi areithiau Ffasgaidd eu cynnwys, ac ymosod ar wersyllwyr eraill.

Derbyniodd erfyniadau Jack Bevan, Thomas Jones ac eraill ymateb oeraidd iawn gan y mil a hanner o bobl oedd wedi ymgynnull erbyn hynny.

Thomas yn awgrymu i'r enw arbennig hwn ddeillio o'r gair gafr a'r ansoddair cysylltiedig gafrog, a'i farn ef yw mai disgrifiad syml yw hwn o nant lle byddai geifr yn ymgynnull i bori.

Ac fe ddaliwn i bod gennym ni bellach yn y Gymru hoff yn ymgynnull beth hylltod yn fwy o feirniaid nag o berfformwyr.

Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai.

Trodd oddi wrth y Tywysog Arian i wynebu, er mawr syndod i Meic, fyddin fawr o ddynion a merched wedi'u gwisgo'n debyg iddo a oedd wedi ymgynnull y tu ôl iddo.

Roedd chwe deg mil o bobl wedi ymgynnull yn y stadiwm yn Rotterdam yn Holland i weld gêm bêl-droed bwysig.

Ar ôl cinio aeth y ddau i'r lolfa am goffi ac yno roedd nifer o bobl wedi ymgynnull, yn eu plith amryw o Wyddelod lleol gan gynnwys offeiriad llawn hwyl.

Wedi i'r Beirdd ymgynnull wrth y maen, gweiniwyd y cleddyf ganddynt ac eglurodd y 'datgeiniad', sef llywydd y seremoni, Iolo Morganwg, na fyddai'r Beirdd yn arfer cario cleddyf noeth yng ngŵydd neb ac na fyddent yn caniata/ u i neb gario un yn eu gŵydd hwythau ychwaith.

Tybiais taw doethach fyddai ei gynnal ar y clogwyn yn y man lle buoch yn ymgynnull y noson o'r blaen.

Bydd aelodau o'r Gymdeithas yn ymgynnull yn y gilfan barcio ger y mast.

Ymgynnull i wrando ar yr Adjutant yn traddodi araith o groeso i'r newydd-ddyfodiaid.

Dyna beth fydd Jean Chretien, prif weinidog newydd Canada, yn ei wneud ym mis Ionawr pan fydd senedd y wlad honno yn ail-ymgynnull yn Ottawa wedi'r etholiad ym mis Hydref.

Ymgynnull yn y Plaza Mayor - prif sgwâr Palma a gweld yno am y tro cynta' y math o safon a ddisgwylid gan y timau.

Cyn codi'r adeiladau hyn arferai'r ymneilltuwyr cynnar ymgynnull yn nhai ei gilydd, mewn ysguboriau a chilfachau diarffordd.

Yn awr carwn symud i Gaeredin, lle y cynhelid arddangosfa fawr o lyfrau addysgol yn Ystafelloedd Ymgynnull Eglwys yr Alban.

Ar ôl iddo ddarfod pregethu âi o amgylch y dyrfa fyddai wedi ymgynnull yn dosbarthu tractiau.