Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgyrchwyr

ymgyrchwyr

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

Mae rheolwr cyffredinol gwesty'r Celtic Royal yng Nghaernarfon wedi sicrhau ymgyrchwyr iaith na fydd y gweithwyr yn cael eu gwahardd rhag siarad eu mamiaith o hyn ymlaen.

Wrth ysgrifennu nid yw dyfodol y cytundeb yn gwbl sicr, ac fe allai hynny fod broblem fawr i'r iaith, ond mae ymgyrchwyr yn weddol sicr fod yr agwedd tuag at y Wyddeleg wedi newid yn llwyr erbyn hyn.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dweud y bydd codi argae Ilusesu yn boddi 52 pentref a 15 tref.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.

Eto, ni lawn sylweddolwyd gan yr ymgyrchwyr cynnar na fyddai ei sefydlu ond megis dechrau, o safbwynt datganoli.

Gwilym Owen (colofn gas Golwg) yn dweud mai ymgyrchwyr y Sianel oedd pobl mwyaf siomedig diwedd y degawd.

Ond dyw'r ymgyrchwyr o blaid y mesur heb roi'r ffidil yn y to eto.

Petai'r Cynulliad a'r sefydliadau eraill yn methu, mae ymgyrchwyr iaith yn hyderus y byddai'r Wyddeleg yn dal i ffynnu, oherwydd bod y fan y maent wedi'i gyrraedd nawr yn ffrwyth blynyddoedd lawer o waith nad oes modd ei ddadwneud.

Yn agos at ddiwedd canrif, pan oedd safonau byw a gwaith wedi gwella tu hwnt i holl obeithion yr ymgyrchwyr cynnar, 'roedd Ieuan Wyn yn ein hatgoffa nad oes ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau yfory heb gofio am frwydrau ddoe.