Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymhlyg

ymhlyg

Olwen ydyw'r anima i animus Culhwch, yr elfen fenywaidd sydd ymhlyg ym mhob gwryw, fel y mae yn animus ym mhob benyw.

Doedd dim byd newydd yn y thema - yn ymhlyg yn y ddeddf a fynnodd gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, sydd yn cael y clod am gadw'r iaith, roedd yna fwriad i roi'r Beibl yn Gymraeg i mwyn i ...

Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eś Mae iddynt fframwaith o resymu clir.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Galwn ar y Cynulliad i ymateb i'r her sydd ymhlyg yn y Ddeddf hon.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Yn un peth, y mae'r bersonoliaeth gyfan yn ymhlyg ymhob gwaith a wnawn.

Ymhlyg yn y sylwadau hyn y mae condemniad pendant ar ddespotiaeth gwladwriaethau'r hen fyd ac y mae'n sicr fod llawer o eiriau Iesu i'r un perwyl heb eu rhoi ar goedd yn y dogfennau hyn.

Y mae gwrthdaro o fewn byd natur yn ymhlyg yn y trawsnewidiad hwn, er enghraifft cynhelid ffug-ymladdfeydd yn portreadu'r ymryson rhwng Haf a Gaeaf.

Y Cwricwlwm Cenedlaethol - y sylw i iaith sydd ymhlyg yn y dogfennau pynciol, ac oblygiadau hynny i'r athrawon pwnc.