Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymlid

ymlid

'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.

Nid oedd wedi sylwi ynghynt, ond yr oedd hi'n hollol wir - yr oedd wedi diffygio ryw ychydig, wedi hen ddiffygio'n wir yn yr ymlid ar ol y ci.

Ymddangosai fod y cwmni helwriaethus wedi eu mwynhau eu hunain yn fawr yn ystod y dydd y llwynog, wedi ei godi ac wedi ei ymlid am filltiroedd lawer, wedi ei ddal.

Mae hon yn ddigon diniwad.' Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

Y mae'r mwyafrif llethol ohonynt yn yr Amser Presennol Cyffredinol: 'Ymlid y gwynt yr wyt ti','Nid adwaenost ti na'th di dy hunan', 'Pawb yn sôn am Dduw', 'Ag och och och fod llaweroedd o'r Cymru hefyd .

Yn wynt ac yn goch i gyd ymddangosodd rhes o redwyr chwyslyd a oedd yn amlwg wedi bod yn ymlid râs hir iawn.

Yn yr hen amser buasai'n hawdd: ymlid Ynot Benn a Di Siw a Cela Trams a'u bath allan o'r deyrnas.

Nid gŵr diddig mohono ef ar y gorau, wrth gwrs; ond gellid bod yn ddiolchgar am ei fod o leiaf wedi ymwared a'i brudd-der a'i ddiffyg pwrpas wrth fopio'i ben ar yr ymlid yma.

Golygfa gyffredin yw nifer ohonynt gyda'i gilydd ar dir agored yn rhedeg a phrancio fel wyn bach, gan ymlid ei gilydd a neidio.