Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymolchi

ymolchi

Yr oedd y fflatiau yn rhad a gellid eu codi'n gyflym ac yr oedd ynddynt gyfleusterau modern megis ystafell ymolchi, nad oedd i'w cael yn yr hen dai.

Safai Mam o flaen y cabinet yn y stafell ymolchi.

Aeth Badshah at J. W. Roberts i Sylhet i ddweud fod Nolini, un o'r genethod a fagwyd gan Pengwern, yn honni ei bod hi, wrth basio'r ystafell ymolchi ym myngalo Pengwern tua 9 o'r gloch y nos, wedi gweld y cenhadwr hwnnw'n cusanu Philti.

Fe dyfodd yn arfer iddo ef fynd i'r ystafell ymolchi o'i blaen hi a rhoi cnoc ar ddrws yr ystafell wely fel arwydd ei fod e wedi gorffen yno, cyn iddo droi i'r ystafell fyw i gysgu.

Aeth eto i'r ystafell ymolchi a dod yn ei ôl â thywel.

Nid yw'r metel cromiwm yn rhydu, ac y mae haen o gromiwm yn amddiffyn bwmperi ceir a'u prif oleuadau, yn ogystal a'n celfi yn yr ystafell ymolchi.

Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai.

Fe ddaethon ni ar draws pedair menyw a'u plant yn ymolchi mewn ffynnon - yr unig gyflenwad o ddŵr ffres yn y pentre'.

Meddyliodd Mam wedyn mae'n siŵr mai sŵn Gwenan yn tisian yn ei chwsg roedd he wedi'i glywed, ac aeth yn ei hôl i'r stafell ymolchi i ailddechrau chwilota.

ganllath lle y gallai'r bobl yfed neu ymolchi.

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

Ond yn lle mynd i'r sytafell ymolchi, aeth i edrych allan i'r nos.

Aeth i'r ystafell ymolchi ac ystyriodd alw ar Tom i ofyn a hoffai e ddod allan gyda hi.

Mae rhai ohonynt yn dal i dyfu, meddir, ac mewn mannau eraill mae'r cerrig yn codi ac yn mynd i ymolchi neu i dorri eu syched mewn afonydd neu yn y môr ar un noson arbennig.

Camodd Mam o'r stafell ymolchi ac agor drws y cwpwrdd eirio.

Mynnai hefyd nad hi oedd wedi tisian gynnau, pan oedd Mam yn y stafell ymolchi.

Pan ddengys lilith y t ichi, gan bwyntio allan beth mor braf yw bod heb ystafell ymolchi ac mor iachus i ddyn yw ymolchi o dan y pwmp tua chanllath i ffwrdd, peidiwch â'i groesi, llai fyth ei regi.

Nid yw'r dynion yn petruso rhag ymolchi o flaen y benywod, ac ni phetrusa gwragedd rhag newid eu dillad isaf o flaen y dynion.

Sbonciodd gwydryn dŵr o'r basn ymolchi a malu'n deilchion ar y llawr.

Arolwg yn dangos mai dim ond 46% o dai Prydain oedd ag ystafell ymolchi.