Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymrafael

ymrafael

Pe bai'r gwahanol fudiadau gwledig yn cyfarfod, yn ymgysylltu ac yn rhannu problemau'n amlach ac yn cynnal llai o ymrafael cyhoeddus yn y papurau newydd, yna byddai gwell gobaith am gytgord a chydymdeimlad.

Un broblem arbennig yn codi o'r datblygiad hwn yw'r ymrafael rhwng yr amatur a'r proffesiynol ym maes archaeoleg môr.

Y gwir oedd bod Delme Thomas a'i gyd-flaenwyr yn fwy na pharod am yr ymrafael, a'r rhengwrblaen ifanc, Chris Charles, 'nôl yn y tîm ar ôl cael ei anfon o'r cae mewn gêm yn erbyn Castell Nedd.

Cafodd ei saethu yn ei ben-glin mewn ymrafael gyda'r heddlu rywdro, a byth er hynny mae'n cerdded gyda herc.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Ond enillasoch y rownd gyntaf yn yr ymrafael.

Tu hwnt i grib y mynydd - Mynydd Bach wrth gwrs - bu rhai o'm cyndadau'n ymrafael â bywyd, ac ni bu neb yn sôn amdanynt ar ôl iddynt ymadael â'r byd.

Er na ellir rhoi llawer o goel ar hynny, mae'n werth crybwyll bod yr hanesydd Rhys Amheurug o'r Cotrel yn son am feirdd Rhys ap Tewdwr yn ymweld a llys Iestun ap Gwrgant ym Morgannwg - dywed mai hyn fu dechrau'r ymrafael rhwng y ddau dywysog; mewn un copi'r hanes, dywedir mai beirdd Morgannwg a aethai lys Rhys, ac fe'u disgrfir hwy'n ei foli mewn cerdd.

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.

Yr oedd peth ymrafael wedi datblygu yn y Blaid erbyn hyn ynghylch lleoliad ei swyddfa.

Daeth ef a'r prentis yma yn gyfeillion mawr - a'r prentis yn ei gynorthwyo pan bu ymrafael rhwng rhai o'r morwyr ar ei long ef a rhai o long arall yn Newcastle, New South Wales.