Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymresymu

ymresymu

Gwnaeth y Priodor ei orau glas i guddio'i ofn tan haenen o ymresymu llee%nog ynglŷn â natur pechod a'r modd y dewisodd Duw ddatguddio'i hun i'r ddynoliaeth.

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.