Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymroi

ymroi

Er gwaethaf anogaeth y Times, papur Llundain, i Ymneilltuwyr ymatal rhag ymroi i goffa/ u marw Barrow, Greenwood a Penry, 'those misguided men', ni fynnai arweinwyr yr eglwysi yng Nghymru wrando.

Credai'n ffyddiog y byddai'r Tywysog Albert yn ymroi i ddysgu 'iaith Gomer', fel y gweddai i'r sawl a hanai o dras Llywelyn Fawr.

Gwelwn fod fy nghynlluniau wedi eu drysu, ac ar y pryd meddyliwn nad oedd dim yn agored i mi i'w wneud ond rhoi heibio'r bwriad o fynd i'r coleg, ac ymroi ati gyda'r business drachefn.

Ar y dechrau gweithiai o'i stydi yn "Hafan" gan ymroi ati i osod seiliau cadarnach i'r gwasanaeth.

O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.

Wrth droi ei wyneb tua Jerwsalem yr oedd yn ymroi i ymgyrch Teyrnas y Tangnefedd, yr Israel newydd.

Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

A ddylai hi fynd gyda'r lli, rhoi ei hamcanion ei hun ar y silff am y tro, ac ymroi'n llwyr i hyrwyddo'r ymdrech ryfel?

Dyma'r amser i annog amryfal ysgrifenwyr i ymroi i ddweud stori fawr y De - a stori fwyaf y Gymru fodern.

Dechreuodd ef ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yn llanc, ac wedi myned I Rydychen gwnaeth ffŵl o'r drefn afrywiog a ddechreuodd ei wneuthur yn fathemategwr, trwy ymroi i ddarllen Cymraeg a gwrando ar ddarlithiau John Rhys.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

Codwn innau, gwisgo amdanaf, sodro bwrdd bychan o flaen fy nghadair, rhoi fy nhraed mewn basgedaid o sbarion lledr, ac ymroi i weithio gyda'm llyfrau gan ddal ati, hynny fedrwn i, trwy'r oriau man tan y bore.

Y mae'n eglur na allent roi eu hamser fel y dylid i ganfasio a lecsiyna, a lleddfent eu cyd wybod drwy ymroi i ofyn y cwestiynau hyn mewn ffurf fanwl iawn, ac o leiaf i ystyried atebion.

Peth ymateb, a phenderfynu ymroi iddi gyda gwirfoddolwyr.

A dechreuodd ymroi gydag unplygrwydd abnormal i erlid y ci.

Nid oedd yn barod i ymroi'n gyflawn o safbwynt dychymyg a dibynnu ar gysylltiadau a strwythurau cymdeithasol a seicolegol y bywyd hwn.