Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymryddhau

ymryddhau

A'r awgrym yw fod modd i'r bardd ymryddhau yn yr un modd.

Cyn i'r llawenhau fedru cychwyn o ddifrif mae LIWSI yn ymryddhau oddi wrth y grwp sy'n cadw reiat a chamu y tu allan i'r ty unwaith eto.

Gan na fedrai ymryddhau o afael Debbie gollyngodd y lleidr y bag arian.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.

Mae'n rhaid i gynghorau ildio, mae'n rhaid i'r Quangos ildio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth ganolog ildio i Gymru ac i'r iaith Gymraeg gael ymryddhau.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Os oes rhaid i un ymadael, ( sef ymryddhau o'r cyfrifoldeb o wely a bwyd i'r cymar) yna ni ddylid ail-briodi.

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.