Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymwthiol

ymwthiol

Ond nid yw grŵp ymwthiol byth yn debyg o sicrhau hunanlywodraeth.

Wrth ymladd etholiadau yr ydych yn creu gelynion, gelynion grymus, ond wrth gwrs dyna beth y mae'n rhaid i'r grŵp ymwthiol ei osgoi ar bob cyfrif.

Y mae llawer mantais mewn bod yn grŵp ymwthiol.

Cyn gynted ag yr oedd y Blaid yn dechrau ymladd etholiadau ar raddfa eang, ac ar adegau yn ennill cyfran sylweddol o'r bleidlais, yr oedd ei swyddogaeth fel grŵp ymwthiol yn dirwyn i ben.

Ond nid dyna'n nod - nid swydd grŵp ymwthiol yw ein gwir amcan sylfaenol - ond bod yn blaid benderfynol a gwydn.

Steve Buscemi (Adolpho Rollo yn y ffilm hon; Mr Pink yn Reservoir Dogs) yn ddelwedd ynddo'i hun - ei wyneb; llygaid pysgodyn, dannedd ymwthiol a gormod ohonynt, gwallt tenau yn cilio o'i dalcen - wyneb hyll yn y bôn ond un nad oes modd tynnu'ch llygaid oddi arno.

Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.

Y mae'n werth cofio bod llawer yng Nghaerdydd heddiw a all ddiolch am eu swyddi breision i weithgarwch Plaid Cymru fel grŵp ymwthiol.

Y mae grŵp ymwthiol yn ym wneud ag amcanion penodol, ac yn ceisio eu sicrhau trwy dylanwadu ar y bobl sy'n meddu grym.

Dyrchafai hynny fri y teulu ymhlith bonedd eraill llai ymwthiol yng ngogledd Cymru ar y naill llaw a'r cylchoedd ffasiynol yn Lloegr ar y llaw arall.