Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymyrryd

ymyrryd

Derbyniwyd llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu nad oedd yn dymuno ymyrryd yn y cais ac yn gofyn i'r Cyngor hwn ei benderfynu.

Ni fyddai hi byth yn ymyrryd a disgyblaeth y cartref.

Y farn oedd nad oedd Cymru mewn sefyllfa i ymyrryd yn y dull yna mewn gwleidyddiaeth gydwladol.

Fe ddaeth rhyw gyfnither o bant i gadw cmwni i Luned, a chan 'i bod hi mor ddi-ddweud, doedd neb am ymyrryd gormod.

Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.

Efallai nad oedd o'n hoffi iddi ymyrryd rhyngddo fo a Cathy ond ni allai esbonio'i ymateb i'r holi am Maes Môr.

Ac nid safbwynt yn unig, ond traethiad neu faentumiad o hawl, a'r hawl oedd hawl y genedl i ffurfio ei hagwedd a'i hymateb a'i pholisi ei hun tuag at y rhyfel,--yr hawl, mewn byr eiriau, i benderfynu drosti ei hun a fynnai hi ymyrryd yn y rhyfel ai peidio.

Bu'r wasg yn llawn yr wythnos hon yn condemnio y Daily Mirror am ymyrryd a phreifatrwydd pobol, ond doedd neb yn cwyno am Nia -- ddim hyd yn oed un wylwraig a oedd a llond ceg o sandwich wy pan ymddangosodd Nia fel huddug i botes wrth ei hochor!

yn datgan ei barn i'r cyw cog hwn oedd yn mynd i nythu yn ei hardal ac ymyrryd a'i pharadwys!yn groenlan, a hardd ei dalcen, a'r gwallt crychfelyn yn pluo pant ei wegil fel shafins coed yn cyrflio ar foncyff cam.

'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau, prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd drwy i ddyn ymyrryd â natur.

A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd.

Arwydd dirywiad mewn eglwys, meddai, yw iddi ymyrryd yn y maes gwyddonol er bod crefydd yn faes y gallai'r gwyddonydd gymryd diddordeb ynddo o'i safbwynt ei hun.

I ateb y cwestiwn bwn, y mae'n rhaid dyfalu beth fyddai wedi digwydd petai'r llywodraeth heb ymyrryd, a chymharu cwrs tybiannol yr economi yn absenoldeb ymyriad llywodraethol â chwrs hanes.

Mae hyn yn rhannol oherwydd effaith y technegau eu hunain ar anifeiliaid a hefyd oherwydd yr egwyddor ehangach na ddylai dynion ymyrryd mewn dulliau naturiol o genhedlu.

'Roedd hi'n edrych felly pan welais i hi, ond wnes i ddim ymyrryd, roedd yn well gen i adael llonydd iddyn 'nhw."

Cyhuddodd Reg o ymyrryd yn rhywiol gyda hi mewn pwll nofio ond daeth yn amlwg yn ddiweddarach mai Mark oedd wedi talu iddi wneud y cyhuddiad.

Dim ond y rheolwr/wraig fyddai a'r hawl i ymyrryd â'r siop dros y cyfnod/au y byddai yno.

Gan nad yw'n rhoi gofynion ar y sector preifat, mae'n dilyn syniadaeth Dorïaidd na ddylid ymyrryd yn y farchnad, ac mai'r farchnad sydd yn teyrnasu dros bob grym arall.

Ond lle mae'r ffin rhwng helpu rhywun ac ymyrryd â'u traddodiadau a'u diwylliant?

Yr egwyddor sy'n sail i waith y Grwp Cynllunio Economaidd yw bod yn rhaid ymyrryd â'r farchnad rydd er mwyn cynllunio amodau economaidd sy'n rhoi sefydlogrwydd a gobaith i'r dyfodol i gymunedau Cymru.

Fel y rhan fwyaf o gwmni%au recordiau eraill yng Nghymru, bydd Ankst yn ymatal rhag ymyrryd yn artistig - caiff pob grŵp neu artist benrhyddid i recordio unrhyw gân neu ddilyn unrhyw lwybr cerddorol a ddymuna.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Y mae rhai o'r amheuon ynglŷn â gallu'r llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau cyflogaeth lawn yn deillio o'r ddwy dybiaeth sydd yn weddill sef (vi) a (vii).

Daeth tro ar fyd Reg yn 1998 pan y cyfarfu Diane Francis - 'roedd ei merch, Emma, wedi cyhuddo Reg ar gam o ymyrryd gyda hi.

Nid problemau ymarferol fu'n dal y byd yn ôl tra'r aeth Saddam Hussein ati eto i geisio difa'r Cwrdiaid, ond diffyg ewyllys gwleidyddol i ymyrryd.