Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynghynt

ynghynt

I Lloyd George, a oedd wedi'i ethol yn aelod seneddol flwyddyn ynghynt, roedd hon yn '[f]rwydr ogoneddus dros Gymru'.

Daw'r eira cyn y bore, meddai'r naill wrth y llall, gan wrando ar ddolefiad y gwynt a chofio'r gaeaf rhewllyd chwe blynedd ynghynt.

Glyn Davies wedi gwirioni arno ym mlynyddoedd dechrau'r ganrif, ac nid oedd hwnnw gymaint a hynny'n wahanol i'r hyn ydoedd gan mlynedd ynghynt.

Nid oedd wedi sylwi ynghynt, ond yr oedd hi'n hollol wir - yr oedd wedi diffygio ryw ychydig, wedi hen ddiffygio'n wir yn yr ymlid ar ol y ci.

Ac er ei chasineb at waith papur, yn union fel y disgrifiasai Watcyn Lloyd hi, 'roedd wedi bod wrthi am dridiau cyfan bythefnos ynghynt yn gwneud dim ond cynorthwyo Sioned i ymgynefino â'r busnes a chael trefn ar y cyfrifon.

'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Ddwy flynedd yn ôl treuliodd y teulu'r žyl yn Boston gyda chyfaill a gyfarfu Eurwyn mewn cynhadledd yn Genefa bum mlynedd ynghynt.

Yn sicr yr oedd ar gael ynghynt, hyd yn oed ar ddechrau'r ganrif.

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

Dylent fod wedi cael eu pedoli oriau ynghynt a doedd dim synnwyr iddyn nhw fynd gam ymhellach - fyddai ceffylau cloff yn dda i ddim i neb.

Roedd pedwar o'r gweddill wedi mynd i ffwrdd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd ac nid oedd gan y ddau arall, gweddw a oedd wedi torri pob cysylltiad â'r byd ers i'w gŵr farw bymtheng mlynedd ynghynt, a hen lanc nad oedd Vera ond wedi bod yn gweithio iddo er mis Awst y flwyddyn flaenorol, ffôn yn eu cartrefi.

Williams Parry, ennill gyda'i awdl ' Yr Haf' ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, dyma un arall o'r to ifanc cyffrous newydd yn ennill ei gadair gyntaf ac yn creu hanes.

Yna, yng nghanol ei ddychryn mawr, clywodd ei chwaer, oedd eiliad ynghynt wedi bod yn sgrechian am ei bywyd, yn gweiddi chwerthin.

Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy tynnu sylw'r ddau oddi ar eu gwaith am eiliad." Cofiodd Jean Marcel am wynebau gwelw y bobl yn y dorf ychydig oriau ynghynt.

Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.

Yn y gêm honno yn erbyn y Gwyddelod gyda llaw y gwnaeth Ian Rush ei ymddangosiad llawn cynta i Gymru, ar ôl ennill ei gap cynta fel eilydd ddeuddydd ynghynt yn yr Alban.

Ac yntau heb y syniad lleiaf am beth i ysgrifennu, plannwyd yr hedyn yn ei ddychymyg pan soniodd ei wraig am ei phrofiad yn cynorthwyo i chwalu ei gartref yn Llanberis bedair blynedd ynghynt, wedi marw ei fam.

Ar lawr un, agorodd mam ddagreuol flanced a orchuddiai gorff ei baban dri mis oed a fu farw rai oriau ynghynt am nad oedd llaeth ar gael iddo.

Dyna esbonio paham na chlywodd pan waeddodd arno o gwr y wîg ychydig ynghynt .

Roedd sawl un ohonynt wedi bod yn ennill ei bywoliaeth ynghynt fel gwniadyddes neu yn gwasanaethu fel morwyn.

I'r mwyafrif llethol ohonynt, dyma'u profiad cyntaf o fod ar y mor mawr ar long hwyliau, eto roeddynt yn wynebu mordaith i fyd newydd trwy foroedd stormus a pheryglus iawn, moroedd a oedd yn hollol ddieithr i bron bawb o Ewrop lai na chan mlynedd ynghynt.

Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.

Ond pan ddaeth Galloway ei hun i'r siop tua hanner awr wedi naw a chlywed fy mod yn y llofft carlamodd i fyny'r ysgol ynghynt nag y gwneuthum i hyd yn oed.

Roedd yn hanner edifar ganddo na fyddai ef wedi meddwl am hynny ynghynt.

Cynhaliwyd seremonïau dathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd hanner canrif ynghynt.

Mae hi'n edrach yn ddigon hen." Edrychodd arnaf gyda chwrteisi dwys ac ailadroddodd yr hyn a ddywedodd ynghynt.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Y mae arnaf gywilydd na buaswn wedi ateb ynghynt y llythyr a gefais oddi wrthych dros flwyddyn yn ôl.

A'r 'Dolig yn ymddangos yn y siopau ynghynt bob blwyddyn a'r tinsel a'r trash yn ein rhwymo mewn clyma drud a dichwaeth ar ein gwaethaf a oes felly fodd i osgoi'r žyl?

a dowch i gweld fi'n ddi-ffael dydd Llun.' A dyna'r union eiriau y bu'n eu rihyrsio mewn sibrydion o'r tu cefn imi rai eiliadau ynghynt.

Wedi i'w gefnder, R. Williams Parry, ennill gyda'i awdl ' Yr Haf' ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, dyma un arall o'r to ifanc cyffrous newydd yn ennill ei gadair gyntaf ac yn creu hanes.

Enwod* Doug Livermore hefyd, bryd hynnyrl hyfforddwr Caerdydd, fel ei gynorthwywr a thrwy hynny ail- ffurfio partneriaeth oedd fel chwaraewyr wedi bod yn rhan allweddol o dim~ llwyddiannus Caerdydd ychydig flynyddoedd ynghynt.

Doedd yna fawr o siâp ar ddim arall ac fe fyddai'r `bws' i'n cario o'r awyren i'r adeiladau - hen, hen lori gyda threlyr rhydlyd - wedi methu ei MOT gwpwl o ddegawdau ynghynt.

Golygai gryn swm o arian i brynu peth felly, wrth gwrs, ond mi wyddai Nel yn eithaf da na fuasai gennyf byth ddigon o wyneb i;w gwrthod a minnau wedi gwario ugeiniau o bunnau ar lyfrau ychydig ddyddiau ynghynt.

Ychydig o flynyddoedd ynghynt roedd newyn dieflig wedi achosi marwolaeth miloedd o Wyddelod, a'r tlodi a'r newyn yma a yrrodd eu cydwladwyr - merched, plant a dynion o bob oedran ar draws moroedd geirwon i geisio byd gwell.

Roedd blas melysach o lawer ar y fuddugoliaeth o'r herwydd, ac roedd yn werth aro~s~ amdani ers colli flwyddyn ynghynt.

Mi ddyliwn i fod wedi meddwl ynghynt.

Roeddwn i'n eistedd yn y tywyllwch ar haenau o sachau bwyd ym mol awyren a ddefnyddiwyd flynyddoedd ynghynt, yn ôl y peilot Americanaidd, i gario arfau i'r Somaliaid.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

Ddyle'r Rhymni ddim bod yn rhwystr i'r tîm oedd wedi gorchfygu grym Seland Newydd ychydig fisoedd ynghynt!

Hanner canrif ynghynt, roedd Evelyn Waugh wedi sgrifennu nofel gyfan, Scoop, yn rhoi pin yn swigen gohebyddion hunandybus yr Ymerodraeth Brydeinig.

Eiliad ynghynt gwelodd y Ddynas Seffti yn rhoi ei chwpan ar ei soser yn ofalus.

Daethai i Sylhet yn ugain oed bedair blynedd ar ddeg ynghynt ac 'roedd wedi bod yn y gwaith yno yr holl amser ac eithrio cyfnod byr o ddeunaw mis, pan ddychwelodd i'w gartref yn Nadia.

Fis ynghynt lladdwyd 165 pan fomiwyd Caerdydd.

Ond cloasid glowyr Trimsaran maes naw mis ynghynt, wedi iddynt ballu derbyn rhestr newydd o daliadau gan y cwmni am fwyngloddio gwythi%en ffres.

Ychydig fisoedd ynghynt, roedd Laima Andrikiene wedi dod i Aberystwyth i gyfarfod cyhoeddus i geisio crynhoi cefnogaeth.

A'r wraig dlawd a safodd o'r naill ochr yn gwrtais, ac efe a aeth heibio iddi ynghynt, ac yn fwy trwsgwl na'i arfer.

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.

Ond ni chafodd y Gwyddelod eu concro'n llwyr oherwydd pan aeth Dewi Sant (ac fe ddywed traddodiad ei fod ef yn ddisgynnydd i Geredig) i deithio yn Nyfed gwelodd fod elfen Wyddelig amlwg yno, yn union fel yr oedd yng Ngogledd Cymru pan ddaeth Cunedda yno ganrif ynghynt.

Yn wir, bu'r dirgelwch yn destun cryn drafodaeth yn y pentref rai blynyddoedd ynghynt, yn fuan wedi i Morfudd ymddangos am y tro cyntaf.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Mae Iwan Llwyd yn mynd â ni yn ôl i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli.

MJ Os felly, pam nad ydych chi'n ymateb ynghynt gydag agwedd mwy positif?

Rhai dyddiau ynghynt, adroddodd y Press Association fod y llinellau ffôn i gyd wedi'u rhwystro gan delegramau yn galw milwyr yn ôl i'W dyletswyddau oblegid y streic.

Pan lwyddodd Bardeen, Brattain a Shockley i fwyhau foltedd trwy ddefnyddio grisial bychan o germaniwm, yn ffodus roedd y wybodaeth o hanfodion ffiseg solidau, ac yn arbennig ffiseg lled- ddargludyddion yn weddol gyflawn, yn dilyn damcaniaethau a seiliwyd bymtheg neu ugain mlynedd ynghynt.

Y tro cyntaf iddo hwylio am Gymru, dair blynedd ynghynt, cododd storm enbyd ar y môr a bu'n rhaid troi'n ôl am Ffrainc.