Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynni

ynni

CYNIGION: Yn ogystal â dilyn canllawiau adrannol ynglŷn â defnyddio ynni ac adnoddau a rheoli gwastraff, gallai'r Adain ddilyn nifer o faterion.

Prawf trawiadol o'i ddiddordeb yn yr ieuenctid, ac o'i ynni diorffwys, oedd ei waith yn lansio'r cylchgrawn, Gwybod: Llyfr y Bachgen a'r Eneth.

Fel y traddodais eisoes mewn darlith Eisteddfodol, daeth ffermwyr yn fwy dibynnol ar ynni o oleu a nwy nag ar ynni'r haul.

Rhoes beth wmbredd o'i amser a'i ynni i sicrhau cyflawnder o feiblau Cymraeg.

Wrth ystyried cynlluniau unigol, dylid meddwl am gyllideb adennill tir diffaith mewn perthynas ag ynni ac, ym mhob achos, dylid ystyried y dewis o beidio â gwneud dim.

Defnyddiaf ynni fel esiampl gan yn anad, dim ynni sy'n cynnal cymdeithasau ac mae eu ffyrdd o'i ddefnyddio yn eu nodweddu.

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Mae yna bedwar lliw yn y gwyrdd, dau liw gwyrdd - y chlorophyll a a b, sy'n gyfrifol am sugno ynni goleuni'r haul ac yn ei osod yn ddiogel yng nghyfansoddiad y siwgr a'r starch.

Fel ei gyd-athrawon yn Adrannau Cymraeg eraill tri choleg y Brifysgol, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu rhan fawr o'r tetunau llenyddol y gelwid arno i ddarlithio arnynt ac aeth llawer o'i ynni a'i amser i gyhoeddi defnyddiau felly - argraffiad o gywyddau Goronwy Owen, a blodeugerdd o farddoniaeth yr Oesoedd Canol.

(b) Defnyddio ynni yn ychwanegol i'r 'gwasanaethau hanfodol', ond heb gynnwys ymarfer corff e.e., oherwydd pryder/gofid.

TECHNOLEG WYBODAETH: Mae dyfeisiau newydd mewn Technoleg Wybodaeth wedi cael effaith enfawr ar yr amgylchedd, yn enwedig o ran materion cysylltiedig â thrafnidiaeth a defnydd ynni ac adnoddau.

(c) Astudiaeth o Ynni Adnewyddol yng Ngwynedd CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Mewn geiriau eraill, mae ganddo "gwmpawd" cuddiedig yn ei gorff sydd yn gallu "teimlo% a dadansoddi yr ynni magnetig.

Mae'r Grwp yn ymwybodol o'r materion hyn, gan ystyried defnydd ynni fel ffactor perthnasol wrth Reoli Datblygu.

Ffurf ar ynni yw goleuni, ac y mae ganddo rym anferthol.

Darganfuwyd fod y broses hon o hollti'r atom yn cynhyrchu ac yn rhyddhau ffrwd anhygoel o ynni, a dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i'r bom atomig.

Mae trigolion Amlwch ym Môn yn gwybod ei bod yn bosibl tynnu cemegau allan o'r môr (mae ffatri cynhyrchu bromin yno) a hefyd mae yn bosibl defnyddio tipyn o ynni'r môr er mwyn creu trydan i'n diwydiannau a'n cartrefi.

Rhaid bwyta bwyd maethlon hefyd, oherwydd treuliad bwyd sy'n creu'r ynni i ddatblygu'r gwres mewnol y buom yn sôn amdano.

Bydd hyn yn effeithio ar feysydd fel llygredd, ynni a defnydd adnoddau, gwarchod natur a'r tirwedd a rheoli gwastraff.

Ac os yw hynny'n wir, chwarae ag angau fuasai peidio â rhoddi ein holl ynni fel cyfraniad bychan at ymdrech Prydain i geisio cyflawni ei gwyrth.

Gallai Anna weld bod ei holl ynni a'i sylw yn y gwaith.

Tydi sy'n gallu rhoi cyfeiriad i ynni'r ifanc a'i droi'n wasanaeth creadigol.

DEFNYDD YNNI A THRAFNIDIAETH: Mae cloddio a chludo mwynau yn golygu gwario ynni sylweddol, a'r gwaith o'i gynhyrchu a'i ddefnyddio, ynddo'i, hun â goblygiadau ar yr amgylchedd.

Mae i ddefnydd cerrig mâl at greu ffyrdd oblygiadau ar ddefnydd ynni ac ar warchod natur a'r tirwedd.

"Mae'n glir eu bod yn bleidiol iawn i ynni niwcliar, ac mae'n debyg mai ffordd o dawelu'r meddwl cyn cyhoeddi eu rhaglen nesaf yw hyn," meddai.

Cofiwch, efallai mai cael mwy o orsafoedd trydan bychan fel hon yw rhan o'r ateb i broblem cyflenwi ynni rhagor nac ynni niwclear.

A ninnau, wedyn yn bwyta ein bara beunyddiol ac yn manteisio ar yr ynni a garcharwyd gan y ddeilen, a ninnau yn medru byw.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Amcangyfrifir mai'r diwydiant Technoleg Wybodaeth fydd defnyddiwr trymaf ynni erbyn troad y ganrif, gan oddiweddyd y diwydiannau traddodiadol drwm a gysylltir yn arferol â defnydd uchel ar ynni.

DEFNYDDIO AC ARBED YNNI: Rhaid defnyddio ynni ar gyfer pob gweithgaredd, ac nid yw'r gwaith a gyflawnir neu a argymhellir yn yr Adran neu gan yr Adran yn eithriad.

Pwy, wedyn, oedd yr ymgeisydd am uchel swydd yng ngwleidyddiaeth Prydain a newidiodd yn sydyn o gael pwl o iselder ysbryd i gyflwr o orfoledd annormal ac ynni annaturiol?

fe erys ynni'r cof yn rhyw fath o ystyfnigrwydd anneall ynom.

Yn ogystal, mae'r gwaith ei hun o adennill yn golygu treulio ynni a defnyddiau.

Yr haul yw ffynhonnell holl ynni y pethau hyn, yn blanhigion ac yn anifeiliaid ac yn yr haf mae yna tua dwywaith fwy o ynni yn tywallt dros Gymru nag yn y gaeaf.

Ond nid mor druenus, efallai nar rhai hynny nad oes ganddyn nhwr ynni am ryw nar arian i fforddio golffio.

Trwy hollti cnewyllyn atom yr elfen iwraniwm, llwyddodd gwyddonwyr yr ugeinfed ganrif i greu ynni niwcliar.

Rhyddhaodd yr ymgyrch ynni newydd ar gyfer ymgyrchoedd eraill.

Gwneir arbrofion ar sut i ffrwyno ynni llanw ac nid yw ffarmio pysgod yn rhywbeth newydd mwyach.