Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynof

ynof

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

dydych chi ddim yn ymddiried ynof fi.

Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

A ydi'r Gymraeg mor addas i'r ffurf honno â Saesneg, neu ai rhyw ddiffyg ynof fy hun yw hwn?

Syrthiodd fy nghalon ynof.

Wedi dweud hynny nid yw ynof fod yn ddibris o werth ystadegau i ddyfnhau ein deall o realiti sefyllfa.

Wedi siarad am y peth yma a'r peth arall, gofynnodd Dafydd i mi yn y man pa beth a fwriadwn ei wneud; a oeddwn yn ystyried mai doeth ynof o dan yr amgylchiadau oedd mynd i'r coleg.

A gostyngeiddrwydd mawr, atebais innau fy mod yn credu y defnyddiai'r Arglwydd fi yn gyfrwng i'w hiacha/ u hi A'm calon yn llosgi ynof, dodais fy nwylo ar ei phen a gweddi%ais ag angerdd am i'r Arglwydd gyffwrdd â hi y foment honno yn ei gwendid a'i hiacha/ u.

Ac o gofio'r heddychwr ynof, ni allai'r geiriau fod wedi disgyn ar ddaear mwy ffrwythlon.

Ar fy synnwyr digrifwch i, neu ei ddiffyg, y mae'r bai efallai; yr hen duedd yma sydd ynof o fod eisiau tynnu'r mwgwd i weld y deigryn ar rudd y clown a'r siom ar wyneb y chwaraewr dartiau.

Yn fy stafell y sgrifennaf hwn a gallaf weld y Passage ar gychwyn am Gymru ac mae awydd cryf ynof i redeg i ymuno â hwy.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

y mae ynof awydd gwneud lles i'm cydieuenctid yn llwybr diweirdeb."

Mae ei ffrog gotwm ysgafn yn esmwyth i'r cyffyrddiad, ac mae 'na gymaint o hapusrwydd ynof.

Mae ynof ragwybod dwfn hefyd na bydd dy dad yn hir eto.

Fe ddigwydd hyn pan fo'r awyrgylch mewn Gwasanaeth lacha/ u yn un sy'n peri i'm calon losgi ynof â chariad at yr Iesu.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Mae tuedd o'r fath ynof erioed, mi gredaf.

Wedi darllen y gyfrol hon o ddeuddeg stori fer gan Marlis Jones, bûm yn ystyried a roddwyd i mi unrhyw brofiadau a adawodd argraff arnaf; a gynhyrfwyd ynof unrhyw deimladau neu emosiynau a fydd yn aros gyda mi.

Ac eto 'roedd yna rhywbeth ynof oedd yn goresgyn hyn hefyd.

Hwyrach mai'r gremlin bach hwnnw sydd ynof sy'n gwneud imi wrthryfela a herio awdurdod a wnaeth imi 'i rhoi i lawr.

Er bod un mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi groesi'r ffordd o Fryn Meirion i'r Coleg ar y Bryn, erys ynof yr ymdeimlad o falchder imi gael y profiad gwerthfawr o berthyn i'r gyfundrefn ddarlledu enwocaf a'r fwyaf ei pharch yn y byd.

Ond wedi cyrraedd pen y bryn, disgynnai'r trên yn ôl deddf disgyrchiant, gyda'r unrhyw yrrwr yn cadw'i law ar y brêc A myfi a ystyriais ynof fy hun pa fodd y defnyddiai'r trên ddau rym i'w yrru, trydan a disgyrchiant, bob un ohonynt yn ei gyfeiriad ei hun.

Wrth glywed y clustdlws yn disgyn ac yn taro yn erbyn y llawr, yr oeddwn yn siwr ynof fy hun fod y gwrthrych bellach yn deilchion.

Ynof mae Cymru'n un.

'Whâ!' meddai hi, 'gafael ynof i!' ac yn lle disgyn fel carreg, cymerais ei llaw ac roeddem fel dau aderyn.

Roedd ganddi ddiddordeb mawr ynof i - am fy mod i'n dod o'r Gorllewin ac yn newyddiadurwraig ynghanol criw o ddynion.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.