Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynysig

ynysig

Nid endyd ynysig yw S4C ond corff sydd yn ganolog i'r gwaith o gyflawni amcanion economaidd.

Yn Y Ffin a Saer Doliau daw rhywun, merch fel mae'n digwydd (er bod Gwenlyn ei hunan yn gwrthod y dehongliad fod arwyddocad i'r rhyw) i dorri ar ddedwyddwch ynysig y cymeriadau.

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Gwedda arddull teledu'r cyfnod - arddull fwy theatraidd a mwy cyfyng i'r elfennau hynny o'r ddrama sydd yn chwarae gemau theatrig di-gynulleidfa mewn twll bychan ynysig.

Buon nhw'n teimlo'n ynysig ac yn unig.

Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.

Metha Lenz dderbyn hyn ac o ganlyniad mae'n mynd i deimlo'n fwyfwy ynysig ac yn y pen draw mae'n gadael Berlin am Yr Eidal, taith gyfarwydd i gymeriadau llenyddol yr Almaen pan mae gofyn am eli i'r galon.

Ras oedd hi erbyn hyn i gyrraedd y pentrefi mwyaf ynysig cyn y mudiadau dyngarol neu, yn well fyth, gyda'r llwyth cynta' o sachau bwyd.

Mewn cyfres o stori%au byrion, byrion, ffwrbwt weithiau, gyda thro yn y gynffon a rhyw islais o ddirgelwch yn gorwedd wrth wraidd nifer ohonyn nhw, mae'n edrych allan ar y byd, ambell waith yn chwyrn, ambell waith yn betrus, ond bob amser trwy lygaid unig ac ynysig un person sydd wedi ei charcharu yn ei chnawd a'i meidroldeb ei hunan.