Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynysoedd

ynysoedd

Ar y diwrnod llawn olaf yn Galway, mynnodd Merêd eu bod yn mynd ar y llong i Ynysoedd Arainn.

Un o ynysoedd y Shetland ydoedd ac ni synnwn o gwbl glywed fod ei gyndadau yn hannu o'r Vikings.

Ymhlith y gwledydd a ystyriwyd 'roedd India'r Gorllewin ac India'r Dwyrain, Canada a De Affrica, Gibraltar, Ynysoedd y Falklands a'r Gambia.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Y Palas Llundain, Dydd Llun Annwyl Llefelys, Dim ond nodyn byr i ddweud fod gen i dipyn o broblem yma yn Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd, - wel, tair a bod yn fanwl gywir.

afon ddieithr oedd hon, a 'r hen glogwyni cynefin, cerrig llam cynefin, yr ynysoedd bach cynefin i gyd dan orchudd dyfnder anghynefin anghynefin beth am rasus cychod?

Un o rhesymau am y mordeithiau hir oedd gorchymyn Morlys Prydain i gapteiniaid llongau ddilyn y llwybr heibio Tenerife, Ynysoedd Cape Verde, i lawr i Rio de Janeiro ac yna i Cape Town.

Mae llywodraeth yr Ynysoedd Balearaidd (Mallorca, Menorca, Eivissa ac ynysoedd llai) yn hurio heddlu iaith i glirio rhai o 'ghettos' ieithyddol yr ynysoedd lle mae'r holl arwyddion mewn ieithoedd tramor.

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Erbyn heddiw, ffurfiant gyfartaledd uchel o'r holl bapurau nedwydd a gyhoeddir yn yr Ynysoedd Prydeinig.

Maent hwythau, pan yw'r ffurfafen a'r ddaear fel petai'r ddwy yn eu cwsg olaf, ac yn llwydo, yn cael eu gorfodi i hofran neu stelcian ymhell o gyffiniau'r ynysoedd amddifad.

Stori garu yw An Dour endro d'an Inizi (Y dþr o gwmpas yr ynysoedd) hefyd.

Y cyfeillgarwch rhyngddo a Jakez Riou a sbardunodd Drezen i gyfansoddi Nozvezh Arkus e Beg an Inizi (Gwylnos Arkus ym Mhig yr Ynysoedd), ar ôl marwolaeth Riou, ac i ysgrifennu cofiant ei gyfaill, sef E Koun Jakez Riou (Er cof am Jakez Riou).

Ond er syndod i bobol Sweden i gyd, amcangyfrifwyd fod tua chant o'r anifeiliaid hyn bellach yn byw yn fforestydd y wlad a hefyd ar ynysoedd - hynny yw, maent wedi llwyddo i fyw yn wyllt ac i fagu rhai ifainc.

Ond fel gweddill pobol anabl yr ynysoedd hyn mae Sian Frost bellach wedi cael llond bol ar driniaeth eilradd.

Iddo ef, roedd rhyw swyngyfaredd yn yr ynysoedd pellennig hyn.

(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.

Dim defaid yn unlle a'r caeau porthiant fel ynysoedd gwyrddlas wedi eu hamgylchynu gan greigiau miniog fel glasiers mewn môr o binwydd tywyll.

Oes ynddo ynysoedd o unigrwydd ac ansicrwydd?

* * * * * Daeth tri phla dychrynllyd i ormesu Ynysoedd Prydain ac ni fedrai'r bobl druan, na Lludd, wneud dim ynglŷn â nhw.

Yr enw arnyn nhw ydi ffolliaid ac ni welwyd erioed rai yn Ynysoedd Prydain o'r blaen.

Fel'na mae hi ar Ynysoedd Groeg.

Roedd y ddau yn frenhinoedd - Lludd yn frenin Ynysoedd Prydain a Llefelys yn frenin Ffrainc.

Deued pechaduriaid truain Yn finteioedd mawr yn nghyd, Doed ynysoedd pell y moroedd I gael gweld dy wynebpryd: Cloffion, deillion, gwywedigion, O bob enwau, o bob gradd, I Galfaria un prydnawngwaith, I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Ac yn wahanol i'r ynysoedd bychain a oedd yn wlyb a chorsiog, mae'r darn hwn o dir yn hollol sych.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

Mae'r hyfforddwr, Clive Griffiths, wedi dewis yr un tîm a gurodd Ynysoedd Cook ar y Cae Râs, Wrecsam, ddydd Sul.

Er gwaetha'r gwynt a'r glaw cafodd tîm rygbi'r gynghrair Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Ynysoedd Cook.

Fe gofir mai dyna'r enw a roddwyd gan anthropolegwyr ar ofergoel brodorion rhai o ynysoedd pell y Mor Tawel.

Hi, yw un o'r ynysoedd mwyaf oddi ar arfordir Cymru.