Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynysu

ynysu

Ar ol ei adnabod mae'n bosib ei ynysu a'i ddyblygu cyn ei drosglwyddo fel arfer i embryo arall.

I ddibenion gwyddonol, y mae'n gwbl briodol inni ynysu'r wedd gemegol, dyweder, ar beth bynnag yr ydym yn ei astudio.

Byddai'n pentref ni wedi ei ynysu a dim trafnidiaeth o gwbl hyd y fan a'r lle.

Ac eto ni ellir ynysu gwaith y gwyddonydd oddi wrth weddau eraill ar fywyd.

Ar ben hyn, cafodd economi Cuba ei ynysu gan y rhan fwyaf o wledydd y byd.

Fe all profiad a chyraeddiadau eraill helpu person sydd wedi ei ynysu oherwydd ei anabledd i ddod dros y diffyg hunan-barch a'r diffyg rheolaeth a deimla.

Roedd hi'n amhosib ynysu'r wasg Gymreig, ac erbyn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr roedd dylanwadau torfol eraill yn ennill troedle.

Mae'r aflwydd yn dechrau pan ydym yn ynysu un wedd ar y bydysawd a cheisio ei wneud yn hanfod pob gwedd arall.

Am ei fod mor gyndyn o ddefnyddio cadair olwyn roedd yn cael ei ynysu fwyfwy yn gymdeithasol ac roedd llai o gyfle ganddo i gael mynediad i'r gymuned.

Er ei fod ar un olwg wedi ei ynysu yng Ngogledd Cymru, doedd diddordebau artistig Harry Hughes Williams ddim yn rhai plwyfol.