Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysbaddaden

ysbaddaden

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Iddo ef, nid hanes pobl neu gymeriadau o'r enw Culhwch, Olwen, Arthur, Ysbaddaden, ac ati, a geir yn y chwedl, ond hanes arwrol un enaid dynol yn prifio trwy ei lasoed i oedoliaeth gyflawn, gytbwys.

Megis yr ymostyngodd Culhwch i Arthur trwy gael ei foeli, neu dorri'i wallt, fe fu raid i Ysbaddaden dderbyn ei sbaddu'n symbolaidd.