Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysbaid

ysbaid

Wedi ysbaid o dawelwch yr oeddwn yn falch o'i glywed yn ychwanegu.

Daeth yn argyfwng ar ôl is-etholiad Trefaldwyn a oedd yn un ardd i'r Blaid, mewn sir lle y mesurir cyfnewidiadau mewn ysbaid o amryw o genedlaethau.

Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.

Bu'r fintai fach yn disgwyl am ysbaid go dda cyn clywed y bolltiau'n cael eu hagor.

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

Aeth i eistedd ar un o'r seddau am ysbaid i wrando ar y carolau.

Ni wnaeth Horton sylw pellach ond ar ol ysbaid, cododd ei ben a gyrrodd ei geffyl nol a blaen ar hyd yr heol.

Ymhen ysbaid, daeth rhywrai i fyny'r grisiau dan sgwrsio, clywais fy enw, ond dyna'r cwbl a ddeallais; dau athro ifanc oedd yno.

Wedi ysbaid yn edmygu gwaith cywrain yr arlunydd bywyd gwyllt, ceir cyfle i gael blas ar fywyd yn ystod Oes Newydd y Cerrig wrth gerdded i mewn i dywyllwch siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Aberffraw.

Yn sgil hyn, croesawn Mr Williams (tad Mrs Houseman) i'n plith, i gartref ei ferch am ysbaid fer, tra bo Mrs Williams yn yr ysbyty.

'Rydw i'n hannar llwgu ers wsnos yn y fan acw - gorfod byta fel bydawn i'n byta uwd hefo myniawyd." "Helpa dy hun." "Mae hi wedi suro'r 'Dolig i mi, was i," ebr efô, ar ôl bwyta'n awchus am ysbaid.

Oedodd y Cyrnol Horton am ysbaid gan edrych draw i gyfeiriad Aberhonddu.

Yno, wedi tri thymor yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn, bu Euros mewn peth cyfyng gyngor beth i'w wneud, a bu am ysbaid yn astudio Lladin a Hanes ar ei ben ei hun gartref.

Wrth gwrs yr oedd yn gofyn ysbaid o amser i sicrhau'n cyf newid hwn o fod yn grŵp gwleidyddol effeithiol i fod yn blaid wleidyddol.

Wrth gwrs, ni all y bardd (mwy na ninnau) groesi o'r presennol yn ol at y profiad; ni all, pan fynno, ddiflannu o'r Fan-a'r Foment-yn-Awr ac iengeiddio am bob ysbaid o gamu'n ol drwyddi.

Wedi teithio am ysbaid gyda'r ddau yn syllu'n ddiymateb drwy'r ffenest ar y wlad yn gwibio heibio, mentrodd Merêd dorri 'r ias.

Ni wyddai Hadad chwaith am arfer gwragedd gwerddon Cwffra o deithio i fyny i Bengasi i elwa ar eu cyrff trwy buteinio'n agored, neu gudd, fel morwynion, efallai, i Americanwr neu Brydeiniwr oedd yn byw am ysbaid heb ei wraig ac yn hoff o gwmni yn y gwely.

Wrth i ni ddisgwyl am ysbaid ar waelod y grisiau i fynd i fewn i'r ystafell meddai wrthyf 'Are you nervous?' Fy ateb oedd 'Terrified' meddai hi wrthyf 'Don't worry that makes two of us'.