Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysbeilio

ysbeilio

Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.

'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.

Rhaid glynu'n gyndyn wrth yr egwyddor nad yw byth yn foesol i ysbeilio neb o'i fywyd.

Yn naturiol, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw arweinydd gael adnoddau i gynnal ei fyddin, ac fe'u cafodd, i ryw fesur o leiaf, trwy ysbeilio'r Eglwys a'r mynaich o'u heiddo, ac yn arbennig o'u da.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

Mae'n edrych ar y gogledd fel rhanbarth twyllodrus, barbaraidd, ac yn y Vita Cadoci adroddir hanes goruchafiaeth Cadog ar Faelgwn a'i fab, Rhun, a ddaethai i Went i ysbeilio ac i ddiffeithio'r wlad.

Ond wrth ysbeilio'r corff fe sylweddolodd ei fod wedi lladd ei frawd ei hun ac mewn pwl o edifeirwch fe laddodd ei hunan hefyd.

Drannoeth yr ysbeilio a'r difa daw'r adfer a'r ail-godi.