Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysblennydd

ysblennydd

Cafwyd sioe sionc ac ysblennydd yn cynnwys eitem gan pob dosbarth a chyfraniad gan bob plentyn yn yr ysgol.

Mae'n addas inni ein cyflwyno ein hunain, ein teulu, ein ffrindiau, ein hardal, a'n gwlad i'r Duw trugarog sy'n cofio mai llwch ydym ac yn ein cylchynu â'r gras a ddatguddiodd mor ysblennydd inni yn ei Fab, Iesu Grist, sydd yr un ddoe, heddiw ac am byth.

Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.

Agorwyd y drws mawr allanol iddynt gan was mewn lifrai ysblennydd.

Gosgeiddrwydd a threfniant ysblennydd ein cerddorion ym Meillionen, lliw ac ysgafnder Dawns Flodau a grym dynion Dawns y Glocsen.

Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith.

Mae bysedd y cloc yng nghwt yr injan yn llynydd, ac mae'r tū mawr, a fu unwaith yn lle ysblennydd gyda'i stablau a'i dai allan, yn dadfeilio'n urddasol ...

Mae rhai gwledydd yn enwog am fathau arbennig o grisial, megis Brasil am ei amethystau ysblennydd, a De Affrica am ei diamwntau.

Un o weledigaethau mwyaf ysblennydd a phell-gyrhaeddol y proffwydi yw eu gweledigaeth hanes.

Ymegyr golygfa ysblennydd wrth i ni ddod i olwg y llyn, yn goron o gopa%on a chribau miniog.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.

Pan welais Mrs Thatcher y bore wedyn yr oedd ei gwallt yn edrych yn ysblennydd a meddyliais fod yn rhaid fod popeth wedi gweithio allan yn iawn.

Roedd e yn enfawr! Ac ysblennydd.