Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysbrydion

ysbrydion

Defnyddir bodolaeth ansylweddol ysbrydion er mwyn cyfleu cymhlethdod y berthynas rhwng agweddau gwahanol sylwedd ein bywydau ni.

Ar ysbrydion aflonydd Teulu Gwyn ap Nudd mae'r bai.

Disgrifiodd ei gwaith fel 'helwraig ysbrydion' a darlithydd mewn Ffenomena Lleisiau Electronig ( EVP) Y mae'n aelod o Gymdeithas Ymchwil Seicic (SPR); Cymdeithas Ffenomen Lleisiau Electronig America (AAEVP); Cymdeithas Astudiaeth Wyddonol o Ffenomenâu Abnormal (ASSAP); a Choleg Gwyddor Seicic (CPS).

Ac yn waeth na'r cwbl, roedd y bobl o'r farn eu bod yn ysbrydion drwg!

Doedd yna ddim ysbrydion ym Mlaenau Ffestiniog pan oeddwn i yn hogyn yn y tridegau - dim bwganod go iawn.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Doedd aros yn rhy hir o dan onnen ddim yn beth da, fodd bynnag, gan fod ysbrydion yn tueddu i hoffi clwydo yn ei brigau.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Gallai celynen ger y tŷ hefyd ei warchod rhag mellt ac roedd hefyd yn cadw gwrachod, ysbrydion drwg a phob melltith draw.

Ffynnai ofergoelion am ysbrydion, canhwyllau cyrff a bwgan ymhob rhyw gornel dywyll...

Yn ne Cymru un person mae mynych alw arni i ddarostwng ysbrydion yw Tina Laurent, Y Cymer, ger Port Talbot.

Eto gellid gorbwysleisio dyled y llenor o Gardi i'r Americanwr, y mae'n debyg, am fod ysbrydion Meini Gwagedd yn codi'n hollol naturiol o darth y Gors fel yr oedd Kitchener yn ei chofio.

Gyda chymorth cyfryngwyr (mediums) megis Y Prifardd Elwyn Roberts a Winni Marshall, treuliodd ef flynyddoedd lawer yn ymweld â thai ac yn cynorthwyo pobl a boenid gan bresenoldeb ysbrydion.

Mae yna hefyd gannoedd o bobol sy'n cael eu haflonyddu gan ysbrydion ac mae yna filiynau sy'n mynd drwy fywyd heb weld na chael unrhyw gyfathrach ag ysbryd na bwgan.

'Mae'r ficer wedi trefnu seremoni bwrw ysbrydion ymaith ar ôl y plygain yfory.' 'Os digwyddith hynny,' meddai Dafydd yn iasol, 'alltudion fyddwn ni, wedi'n condemnio i grwydro drwy'r holl fydysawd eang.

Ond rhyw ysbrydion amwys, anniddorol oedd y rhain - rhyw greaduriaid ffansi%ol, yn symud fel pe o dan blanced wen, ac mor ddigymeriad fel nad oedd modd gwybod eu rhyw, hyd yn oed; ac yn wir doedd dim sicrwydd fod ganddyn nhw ryw.

Roedd fel petawn i wedi dihuno'r ysbrydion aflonydd.

Ond chawson ni'r un ddarlith o fath yn y byd ar sut i drin ysbrydion.

Roedd wedi'i fagu i dderbyn fod yna ddimensiwn goruwchnatuiol yn gysylltiedig a phob dim, a bod ysbrydion drwg yn ffaith yr oedd yn rhaid dygymod a hi.

Does dim byd arall i'w wybod." "Felly rwyt ti'n credu mewn ysbrydion," meddai Orig.

Pan ddôi'r bore, yr oedd yn llawen ganddo weled y goleuni cyntaf yn treiddio trwy farrau'r ffenestr gan yrru ar ffo yr holl ysbrydion dialgar a gosod y muriau yn ôl yn eu lle.

'Ond yng ngoleuni'r holl dystiolaeth yr wyf wedi'i derbyn, rwyf wedi trefnu gwasanaeth i fwrw ysbrydion drwg ymaith.' Fferrodd Mathew.

Ond mynd yn offeiriad wnesi, ac yn fuan iawn yn fy ngweinidogaeth fe sylweddolais fod ymgodymu ag ysbrydion yn rhan o'r gwaith.

Roedd oriau eto cyn y nos a'i ysbrydion.

Mae un peth yn sicr: mae'r mediums, ac eraill erbyn heddiw, sy'n cael eu gwadd i drin ysbrydion mewn tai yn cael eu cadw'n hynod brysur, ac mae galw mawr amdanyn nhw i roi cymorth a chefnogaeth i'r nifer fawr fawr sy'n cael eu dychryn gan wahanol ysbrydion sy'n cyd-drigo â nhw.

O gyfnod cynnar iawn ac mewn sawl gwlad credodd pobl fod yr ysgub yn foddion i ddiogelu'r cartref rhag y Diafol ac ysbrydion drwg o bob math.

Rydym yn sicr fod ysbrydion yr aelodau cynnar wedi bod gyda ni yn Mallorca yn ein hannog a'n cefnogi.

Dy'n ni'n ddim mwy nag ysbrydion disylwedd.

Ysbrydion!

Trwy roi ysbrydion ar y llwyfan medrai Kitchener dorri trwy gyfyngiadau amser a gwneud i'r gorffennol gyd-fyw â'r presennol.

Dôi ysbrydion i'r gell i'w boenydio, yr ymlynwyr a'r dialwyr i'w wawdio a'i boeni, i'w dynnu wrth ei ddillad a hisian yn ei wyneb fel seirff.

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

Pwrpas y duo oedd dychryn unrhyw ysbrydion drwg oedd yn digwydd loetran yn y tir rhag iddynt effeithio ar y cnydau.

Ie, y niwl coch oedd yn ei amddiffyn rhag y cysgodion a'r ysbrydion y tu draw, rhag yr ymladd a'r gwaed.

Dyma pam y mae Kitchener yn eu dangos fel ysbrydion, yn hytrach nag fel yr oeddent yn byw a hwythau ar dir y byw.

Ac o newyddion drwg i ysbrydion drwg.

Dychwelant fel ysbrydion am na allant dderbyn eu cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Symbol ffalig a ffrwythlondeb a'r darnau arian (fel yn ôl traddodiadau'r Rhufeiniaid) yn cadw i ffwrdd yr ysbrydion aflan.