Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysfa

ysfa

'Tuedd unrhyw un ag ysfa fel d'un di ydi mynd yn dipyn o boen i'w ffrindiau weithiau,' meddai Robin.

Beth ydi'r ysfa yma i geisio ei gwneud yn ddiangen i bobl ymwneud â'i gilydd?

Pan deimlodd yr ysfa i gael ci am y tro cyntaf, gofynnodd i Mam a Dad a gâi o gi bach fel anrheg pen-blwydd neu anrheg Nadolig, ond er crefu a chrefu, yr un oedd yr ateb bob tro.

Mae'r ysfa i sgriblan wedi ei chaethiwo eto.

'Mae'n rhaid i mi gael gwybod.' Beth oedd yr ysfa yma ynddi i beidio â bod mewn dyled i neb?

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Rhyw ysfa emosiynol.

Yr un awen a'r un ysfa greadigol sy'n cynhyrfu'r ddau, ac yn yr un ysbryd y dylid ceisio eu deall.

Mae'r wyrth yn parhau, ac er na wyddom y cyfan am yr ysfa a'r gallu anhygoel i fudo, mae yn ein gwefreiddio pob Gwanwyn.

Ar deithiau fel hyn byddai rhyw ysfa yn gafael yn y bechgyn ac yn eu troi'n lladron a'r peth arferol i'w ddwyn oedd arwyddion.

Y mae celfyddyd y Pwyliaid, fel hwy euhunain, yn lawn dewrder, gwreiddioldeb ac ysfa angerddol i gyfathrebu.

O hynny ymlaen unig amcan etholiad yw ennill, a sicrhau grym i'r mudiad Cymreig, a'r gwir gymhwyster i'n hymgeiswyr oedd yr ysfa am rym, a'r penderfyniad i gael trefnu pethau yng Nghymru.

Mae carthu ymaith y gwyriadau athrawiaethol, y chwarae mig â safonau moesol, yr ysfa i droi Iesu Grist yn fasgot ein trachwantau ni, yn waith poenus.

Tra gallai ysfa ddiwygiadol yr unbeniaid goleuedig helpu diwylliannau cysglyd, nid oedd Herderiaeth o reidrwydd yn ffafriol iddynt.

Eglurodd mewn stori ddigri sut y mae rhai pobl yn gorfod ymateb i ryw ysfa sydd ynddyn nhw.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn y rhamantiaeth ddirywiedig hon yr oedd ysfa i fynd o'r tu arall heibio i fywyd bob dydd a throi at fyth, myth a oedd, chwedl yntau: wedi ei seilio ar apêl at y gorffennol neu at brydferthwch pell, afreal, negyddol.