Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgafnhau

ysgafnhau

Er enghraifft, gwnaed darganfyddiadau ym myd amaethyddiaeth sydd wedi ysgafnhau gwaith pawb.

Papur swmpus, yn golofnau trwm o dduwch heb lun i'w ysgafnhau.

Fodd bynnag, diolchwn am bob darganfyddiad a wnaed, ac a wneir o gyfnod i gyfnod, sy'n ysgafnhau ac yn cyfoethogi bywyd dyn.

Trwy ryw ryfedd wyrth, ni anafawyd ef ond dyna diwedd ar arbrawf arall i ysgafnhau baich ffermwyr ucheldir Ceredigion!

Bu darllen John Cage yn fodd i ysgafnhau'r baich a gwneud cyfansoddi yn rhywbeth difyr.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Llithrai geiriau yn ddilyffethair dros eu gwefusau i ysgafnhau'r oriau ac yr oedd y ddau fachgen yn glustiau i gyd.

Ysgafnhau a wna'r galwadau ar weithwyr naw tan bump erbyn diwedd y prynhawn a phrin fod yna'r un maes lle na rennir baich y gwaith yn weddol gyfartal.

Ceir ynddi ddigonedd o hiwmor cynnil a nobl sy'n ysgafnhau'r digrifwch ac yn deillio ohono.

Y Diddanion oedd yr unig lecyn golau yn Nhrysorfa'r Plant ac am Y Cenhadwr, ofer fu'r ymdrech erioed i ddod o hyd i ddim ynddo i ysgafnhau y baich o grefydd oedd yn pwyso arnon ni.