Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgaru

ysgaru

Ar ben trais ei gwr, poen ysgaru, cyfrifoldeb y plant ac amodau byw anobeithiol, yr oedd swyddog y dref yn ei gwrthod.

Colbir yr Eisteddfod Genedlaethol am roi'r 'lle blaenaf o hyd i ffurf obsolesent fel yr awdl'; y mae'r Eisteddfod wedi mynd yn sioe enfawr ariangar, wedi ei llwyr ysgaru â phob rhith o gelfyddyd'; ac y mae ei chystadlaethau'n anathema i gelfyddyd.

Mae hyn yn torri'r cwlwm priodas, ac mae hawl gan y person di-euog i ysgaru ei gymar/chymar.

Ond cymaint fu'r ysgaru artiffisial rhwng y gwyddorau a'r celfyddydau mewn addysg uwch nes bod gwŷr llen a gwŷr gwyddoniaeth yn dra anwybodus am weithiau y naill a'r llall, nid yn unig yng Nghymru ond trwy Brydain.

Nid oedd yn syndod ei fod yn trefnu deiseb ysgaru ond am barhau gyda'i fusnes.

Ysgaru.

Un o anfanteision addysg uwch yw ysgaru pobl o darddiad gwerinol oddi wrth eu cefndir.

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Yn union fel ni ddylid ysgaru'r ymgnawdoliad oddi wrth yr iawn, na ddylid ychwaith hollti'n ormodol rhwng bywyd Crist, ei aberth, ei atgyfodiad a thywalltiad yr Ysbryd Glân.

Dadl llawer yw mai dyma'r unig sail dros ysgaru, a'r unig le lle y gellir ystyried ail-briodi, arwahan i lle mae un cymar yn marw.