Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgawen

ysgawen

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

I wella chwydd yn y traed berwid gwraidd yr ysgawen, ei gymysgu gyda hen saim i wneud eli a'i roi ar y traed a'r coesau.

O wisgo coron o frigau ysgawen noswyl Calan Mai gellir gweld bodau goruwchnaturiol.

Ond trwy osod ceirios, cwpog, eirin perthi ac ysgawen gyda nhw, edrychent yn dra effeithiol.

Yng ngwlad Pwyl gellid claddu pechodau o dan yr ysgawen gan y byddai'r goeden yn eu derbyn.

Eto roedd cael ysgawen yn tyfu ger y tŷ yn ei warchod rhag mellt.

Camgymeriad mawr fyddai trwsio crud gyda phren ysgawen gan y gallai gwrachod wedyn niweidio'r plentyn.

Gwrthodai ffermwyr ddefnyddio ffyn ysgawen i yrru eu gwartheg a phe curid plentyn â ffon o'r fath ni fyddai'n tyfu'n iawn wedyn.

Roedd y Meddygon yn argymell sudd yr ysgawen i wella brath neidr.

Coeden â chryn dipyn o goelion yn perthyn iddi yw'r ysgawen.

Aeron y criafolen a'r ysgawen yw'r cyntaf i ymddangos ac i ddiflannu, a'r mwyalchod sydd yn bennaf gyfrifol am eu diflaniad.