Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgeler

ysgeler

Yn sgîl presenoldeb cynhyddol y camerau dylsai unrhyw chwaraewr syn euog o ddigwyddiadau ysgeler, annerbyniol, dderbyn y gerydd a ddaw i'w ran.

rhuthro'n ôl am y tŷ â'r lamp yn ei law grynedig, i gyhoeddi'r newyddion ysgeler.

Y mae awydd afieithus yr awdur i groniclo hanes ysgeler Wil yn creu rhyw amwysedd gogleisiol ym meddwl y darllenwr.

Ac yna'r gair cwta hwnnw, yr atodiad ysgeler yna fel petai, am 'waed'.

Eu hiaith a'u diwylliant oedd prif amddiffyniad urddas a dynoliaeth y Cymry yn wyneb goresgyniad diwydiannaeth a chyfalafiaeth ysgeler y ganrif ddiwethaf, ond polisi anwar y Llywodraeth oedd eu diddyfnu oddi wrth eu diwylliant a'u diwreiddio o'u hanes fel y chwelid y gymdeithas genedlaethol.

Prin y gallai dim byd fod yn fwy ysgeler na gwrthod graslonrwydd anhygoel Duw.