Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysglyfaeth

ysglyfaeth

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Mae dysgu darllen ac ysgrifennu yn peri bod dynion yn mynd yn ysglyfaeth i bropaganda.

Oddi allan gellid clywed llef y bleiddiaid yn chwilio am ysglyfaeth yn yr eira a dôi sŵn ambell aderyn nos o gyfeiriad Llyn Llydaw a phegwn yr Wyddfa.

Collais ysglyfaeth lawer y tro hwn.

Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.

Lleinw yr arferiad y meddwl â dymuniadau aflan ac anghyfreithlawn, gan droi y dyn yn gaethwas i'r chwantau ffieiddiaf, ac yn ysglyfaeth i'r canlyniadau mwyaf echryslon.