Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgogodd

ysgogodd

Hynny mae'n debyg a ysgogodd Cyngor Taf Elai i benodi swyddog i ddatblygu cynlluniau fel hyn yn yr ardal hon.

Efallai mai prinder graffiti Cymraeg a ysgogodd y Cyngor Celfyddydau i godi wal blastig mewn un Steddfod gan annog y bobl oedd ar y Maes i sgwennu eu negeseuon arni.

Adeg Rhyfel y Degwm dyna ysgogodd erthygl olygyddol y Times, sy'n crybwyll '...'

Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.

Yr oedd yr hen ffurfiau yn anghymwys ar gyfer dweud yr hyn a ddymunai, yr union brofiad a ysgogodd barodi Williams Parry ar 'Yr Haf.' Ond erbyn y bryddest 'Adfeilion' trodd y dull parodiol yn arf gynnil.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Hwyrach mai'r nodwedd tadolaidd yn Sam a ysgogodd y llinell enwog, 'Babi Sam yw'r BBC.' Ni wn, gyda llaw, pwy piau hi.

Y newidiadau ym mhatrwm darlledu Radio Cymru a ysgogodd yr ail gynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol llynedd.