Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgolheictod

ysgolheictod

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion a ymddiddorai mewn ysgolheictod a dysg estyn croeso i wyr galluog i'w tai.

Ond tymherwyd y cyfoeth diwylliannol hwn gan ei ysgolheictod diwinyddol.

Efallai fod ei wybodaeth yn amlycach na'i ddysg, a'i ddamcaniaethu'n drech na'i ysgolheictod ar adegau, ond prin fod neb o'i flaen wedi ymchwilio'n ddycnach i holl agweddau hanes Mon na Henry Rowlands.

Meysydd ysgolheictod oedd y rheini, pan fynnid cyfeirio'r gwaith yn bennaf at gynulleidfa ryngwladol.

Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.

Fodd bynnag caiff caredigion yr oesoedd canol eu swyno gan y stori hon o hyd, a hefyd boddhad o'r ysgolheictod cadarn sy'n ei chyflwyno inni yma.

'Roedd yn amlwg yn waith a oedd wedi gwneud defnydd llwyddiannus o ysgolheictod Erasmus a Mu%nster ac wedi elwa'n fawr ar fersiynau cynharach Luther, Tyndale a Coverdale.

Ei ysgolheictod yn y cyfeiriad hwn a'r ffaith ei fod yn gyfarwydd â cheinion llenyddol ei genedl ac â chelfyddyd y beirdd a'i gwnaeth yn gynorthwywr mor addas ac yn gynghorwr mor dda i William Morgan.

Disail oedd y ceisiadau ganrif yn ôl i fwrw amheuaeth ar ei onestrwydd a'i ysgolheictod trwy awgrymu ei fod wedi codi ei ddefnyddiau'n glap o lyfrau eraill, geiriadur John Brown Haddington, yn fwyaf arbennig.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Y mae wedi sôn am y bwlch hwn rhwng ysgolheictod a phrydyddiaeth mewn mannau eraill ac y mae'r mater yn amlwg yn un o bwys iddo.

Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.

Dyma ddynion na chlywir mwy na mwy am eu dawn bregethu ond yr oeddent yn cyfuno syberwyd ac ysgolheictod y traddodiad hyn gyda chroesawu'r tymhestloedd pentecostaidd a brofasant yn ystod eu gweinidogaeth.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.

Y bennod nesaf, 'Lledu Gorwelion Ysgolheictod ...' , a'r bennod ar ei hôl yw'r ddwy feithaf yn y llyfr, yn ymestyn dros ddau draean ei hyd ac yn llawn o ddeiagramau a mapiau a lluniau pwrpasol.

Ni chafodd ef weledigaeth y dynion hyn ar bwysigrwydd ysgolheictod, ac ni chawsant hwythau ei weledigaeth ef o'r werin.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Soniwyd eisoes am ei ysgolheictod.

Ymgais i fynegi diolch iddo am y modd y mae'n dyst i safonau ysgolheictod y Gymraeg yn y byd cydwladol hwnnw, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yw'r ysgrif hon.