Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgoloriaeth

ysgoloriaeth

dyn yr ysgoloriaeth

Pam gebyst na fuaset ti wedi derbyn yr ysgoloriaeth honno mewn theatrical design y cefaist ei chynnig i fynd i un o brifysgolion America pan oeddet ti'n ddwy-ar-bymtheg oed?

Wedi'r cyfnod o ddwy flynedd yn astudio Anatomeg bu+m yn ffodus iawn o ennill ysgoloriaeth fechan ac roedd hon yn werthfawr yn fy ngolwg gan fy mod hyd hynny wedi dibynnu'n gyfan gwbwl ar fy nhad am gefnogaeth ariannol.

A diau mai eu tosturi a'u hysgogodd i ddyfarnu ysgoloriaeth imi.

Pan enillodd Kalinnikov ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Moscow roedd mor dlawd nes y bu'n rhaid iddo chwarae'r ffidil, y basŵn a'r tabwrdd ar strydoedd y ddinas er mwyn cadw corff ac enaid ynghyd.

Mae Towyn yn credu bod beirniaid yr Ysgoloriaeth wedi cymryd cam gwâg fwy nag unwaith.

Er Cof am ei Wraig Mae Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn cael ei chyflwyno er cof am Violet Jones, Nantclwyd, diweddar wraig Towyn.

Iaith Ryngwladol Cerdd Ar nodyn mwy dadleuol, fe ddatgelir bod Towyn Roberts o'r farn y dylid caniatau i gantorion sy'n cynnig am ei Ysgoloriaeth ganu eu caneuon yn yr iaith wreiddiol yn ogystal â'r Gymraeg.

Ond ar ôl dweud hynny, ddaru Towyn erioed fygwth peidio noddi'r ysgoloriaeth, na rhoi unrhyw bwysau ar yr Eisteddfod i lacio'r Rheol Gymraeg.

Parodd eu hedmygedd hwy a'u balchder ohoni, yn arbennig wedi iddi ennill ysgoloriaeth i Ysgol Sir Caernarfon, iddi gredu yn ei gallu i gyrraedd unrhyw nod a osodai iddi ei hun.

Deuthum i Fangor i sefyll arholiad ysgoloriaeth.

Er bod afiechyd ac amgylchiadau Rhyfel yn ei rwystro rhag mwynhau'r ysgoloriaeth deithio, ychydig oedd gan Gymru i'w gynnig yn artistig.

Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Chethams, y Conservatorio di Francesco Morlacchi, Perugia a Phrifysgol Caergrawnt, lle derbyniodd ysgoloriaethau corawl ac academaidd ill dau (yn ogystal â bod yn lesyn pêl-droed), cyn cychwyn ar Ysgoloriaeth Arwain yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, o dan Norman del Mar.

Profedigaeth chwerw iddo fu claddu ei fab ieuengaf, Robert Daniel Evans, newydd orffen cwrs o addysg a enillodd trwy ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Y Bala.

Yna fe ddychwelodd i Goleg Caerfyrddin i wneud ei radd BD Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Mansfield, Rhydychen.

Enillodd ysgoloriaeth i Fangor a throi oddi wrth hanes, ei ddewis bwnc gwreiddiol i astudio Cymraeg.