Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgrifennai

ysgrifennai

cyfnodolyn y gymdeithas oedd herald of peace ac ysgrifennai henry richard yn rymus a threiddgar iawn ynddo o blaid heddwch.

Yn Saesneg yr ysgrifennai'r offeiriad, ac â chroes yr arwyddai'r warden ei enw.

Ysgrifennai Mam ddwy a thair gwaith yr wythnos gan yrru parseli o gacennau a darnau o gig moch cartre iddo.

Nid ar gyfer y cyffredin diddeall megis myfi yr ysgrifennai SL, ond ar gyfer cylch dethol a deallusol bychan iawn.

Pan ar y môr ysgrifennai lythyrau diddorol yn gyson a gyrrai frys-negesau o bob porthladd.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Ysgrifennai ambell gerdyn i'm cymell i gadw fy ffydd ac i barhau i fwrw pen yn erbyn y wal, oherwydd byddai rhywbeth yn siwr o roi yn rhywle!

Ysgrifennai'n rhwydd a gofalus gyda'i iaith yn raenus, gywir a heb fod yn rhy lenyddol a chymhleth.