Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystadau

ystadau

Y mae Swindon wedi tyfu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac y mae llawer o ystadau tai mawr wedi eu hadeiladu ar ymyl y dref.

Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Ar un o'r ystadau hyn yn ardal Pentwyn ceir eglwys arbennig iawn sydd wedi llwyddo i wreiddio'r argyhoeddiad efengylaidd ymysg y gymdeithas.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.

Ceir ystadau mawrion o dai cyngor ac ardaloedd sy'n sefyll yn uchel ar restrau amddifadedd economaidd.

Ar yr ystadau hyn gellwch gael cymysgedd o wahanol fathau o dai.