Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystrydebau

ystrydebau

Rhan o'r bwriad yw fod llawer o'r cymeriadau yn ystrydebau - o'r athrawes ddrama sy'n hynod o "darlings, darlings" i'r prifathro gwallgo sydd wedi cael ei seilio ar gymeriad o ffilm y grwp roc Pink Floyd, The Wall.

Mae hanes tro%edigaeth yr hen ŵr yn hollol draddodiadol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae'n cynnwys rhai o'r hen ystrydebau na phetrusai Hiraethog rhag eu defnyddio.

Arwynebol yw eu sgwrs, y tywydd yw'r prif bwnc, ac mae'r hyn a ddywedant yn ystrydebau noeth.

Yn y cylchgronau a oedd yn lledu a helaethu eu dylanwad yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf roedd ymadroddion fel 'Meibion Hengist' neu 'Blant Alis' am y Saeson wedi mynd yn ystrydebau, neu'n rhan o rethreg y cyfnod.

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).