Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystrydebol

ystrydebol

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Mae Yma o Hyd Angharad Tomos yn hawdd ei darllen a'i deall, ond nid yw'n debyg o fod yn boblogaidd am nad yw'n porthi dychymyg y gynulleidfa gyda'r stereodeipiau ystrydebol.

Ar un olwg roedd yn enghraifft berffaith o'r darlun ystrydebol o'r artist yn ei nenfwd - yn ei achos ef, llofft ŷd ym Mynydd Mwyn - er na fuasai ef ei hun, mae'n wir, yn derbyn y ddelwedd honno.

Ond sylweddola'r siaradwr mai meidrol ydyw yntau ac ond yn forgrugyn ystrydebol arall i'r morgrug y mae'n eu gweld yn y pellter.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

Yn ei awdl clywir eto hiraeth yr alltud ystrydebol am yr aelwyd a'i moldiodd.

Roedd y defnydd o gerddoriaeth siwdo-Islamaidd yn ystrydebol.

Erbyn heddiw, gellir gweld bod y darlun ystrydebol hwn o fywyd a llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag am Gymru, yn anghyflawn a chamarweiniol.

Drylliwyd delweddau ystrydebol o'r Cymoedd gan y ddrama angerddol Belonging, gydag Owen Teale a Gwen Taylor.

Mewn ymadrodd ystrydebol, darganfu o newydd y traddodiad Cymreig mewn barddoniaeth a rhyddiaith.